'Ychydig fisoedd' i ddatrys ffrae trydaneiddio'r rheilffyrdd

trydaneiddio rheilffyrdd
Image caption Mae cynlluniau ar y gweill i drydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd a'r brif linell o Lundain i Abertawe

Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd y ffrae ynglyn â phwy ddylai dalu am drydaneiddio rhwydwaith rheilffordd y Cymoedd yn cael ei ddatrys mewn "ychydig o fisoedd".

Mae gweinidogion Prydain a Chymru wedi bod yn dadlau dros sut i gyllido'r rhwydwaith i mewn ac allan o Gaerdydd ers mis Mawrth.

Tra'n siarad ar rhaglen 'Sunday Supplement' Radio Wales, dywedodd Mr Crabb mai trydaneiddio'r rheilffyrdd oedd "y broblem anoddaf, llawn clymau, sy'n bodoli rhwng y ddau lywodraeth", ond ei fod yn credu "bod modd ei datrys".

Image copyright Getty Images
Image caption Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, mai'r mater hwn oedd ei flaenoriaeth ac na all "lusgo mlaen yn ddiddwedd".

Mae disgwyl i'r prosiect o drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd gostio rhwng £309m a £463m, a'i gwblhau rhwng 2019 a 2024.

Fe fyddai gwelliannau yn golygu uwchraddio'r brif rheilffordd rhwng Paddington, Llundain a Chaerdydd, wedi'i gwblhau erbyn 2017, a'i ymestyn i Abertawe erbyn 2018 ar gost o £850m.

Roedd trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd i fod i ddilyn wedyn, ond mae amheuon wedi codi am y cynllun ers mis Mawrth yn sgil dadlau am bwy fyddai'n ariannu'r cyfan.

Ond mae Mr Crabb yn dweud bod datrys y broblem yn flaenoriaeth iddo: "Rwyf wedi bod yn treulio cryn dipyn o amser dros yr Haf ar y mater hyn.

"Mae angen gwneud 'chydig mwy o waith rhwng y ddau lywodraeth ar ble rydym yn credu fo'r ateb, ond rwy'n credu pan rwy'n mynd o gwmpas yn siarad â busnesau yn Ne Cymru, mae nhw'n desperet i weld y broblem hon wedi'i datrys, mae nhw eisiau i'r ddau lywodraeth fod yn cydweithio'n effeithiol."

Wrth ddisgrifio'r mater fel "prawf litmws" ar gyfer gweithio ar y cyd rhwng Cymru a San Steffan, fe rybuddiodd na all y mater "lusgo 'mlaen yn ddiddwedd."

"Mae angen neilltuo tasgau penodol i dimau o beiriannwyr sydd ynghlwm â Network Rail, os yw'r prosiect anferthol hwn, sy'n sialens yn ariannol, yn mynd yn ei flaen.

"Mae 'na dargedau pendant i'w taro o ran hynny. Ond rydym yn sôn am ychydig o fisoedd, gobeithio."

Angen "llais cryfach" i Gymru

Ar fater refferendwm anibynniaeth yr Alban ar Fedi'r 18fed, dywedodd Mr Crabb ei fod am weld Cymru a Gogledd Iwerddon, "waeth be sy'n digwydd" yn yr Alban, yn cael "llais cryfach" ar ddyfodol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn dilyn y bleidlais.

Wrth alw am "drafodaeth ddofn a llawn, sy'n cynnwys pob rhan o'r DU", dywedodd fod angen i lais Cymru gael ei "glywed yn flaenllaw yn hynny."

"Rydym angen cytundeb cyfansoddiadol sy'n cynnig sefydlogrwydd, fel bod peirianwaith llywodraeth ddatganoledig yn gallu canolbwyntio ar rai o'r heriau mawr eraill fel yr economi, ysgolion ac ysbytai, oherwydd rwy'n credu bod perygl, gyda'r holl egni sy'n cael ei sugno i mewn i ganolbwyntio ar y cyfansoddiad, bod llygaid yn cael eu tynnu oddi ar y bêl o safbwynt rhai o'r materion mawr sy'n cael mwy o effaith o ddydd i ddydd ar bleidleiswyr", ychwanegodd Mr Crabb.

Straeon perthnasol