Enwi dyn: llofruddiaeth Rhisga
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr Heddlu eu galw i Glôs Twmbarlwm yn Rhisga nos Fercher.
Mae'r heddlu wedi enw'r dyn fu farw yn dilyn digwyddiad yn Rhisga ger Casnewydd, ar ddydd Mercher, Awst 27ain.
Roedd Stephen Lambert yn 35 oed ac o Rhisga.
Roedd wedi cael ei drywanu.
Cafodd yr Heddlu eu galw i Glôs Twmbarlwm yn y dref tua 20:45 nos Fercher.
Mae dau ddyn lleol, un 28 oed ac un 35 oed, sydd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2014