600 mewn protest gwrth-Nato

  • Cyhoeddwyd
Na i Nato
Disgrifiad o’r llun,
Roedd cannoedd o bobl wedi ymgasglu tu allan i Lys y Goron yng Nghasnewydd i wrthwynebu cynhadledd Nato.

Roedd tua 600 o bobl yn gorymdeithio drwy ganol dinas Casnewydd bnawn Sadwrn er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i'r ffaith bod uwchgynhadledd NATO yn digwydd yno yr wythnos nesaf.

Roedd y brotest 'Na i Nato' yn gyfuniad o aelodau mudiad CND, ymgyrchwyr yn erbyn awyrennau drôn, grwpiau o blaid Palesteina a grwpiau sosialaidd.

Roedd pobl o bob oed yn rhan o'r orymdaith, gyda rhai wedi teithio mor bell â'r Eidal a'r Alban.

Roedd nifer o bobl lleol yn gwylio'r brotest heddychlon ac roedd presenoldeb yr heddlu yn fychan.

Mi fydd dros 150 o benaethiaid gwlad a phrifweinidogion yn bresennol yn yr uwchgynhadledd sy'n cael ei chynnal yng Ngwesty'r Celtic Manor, Casnewydd, ddydd Iau a Gwener nesaf.

Disgrifiad o’r llun,
Protest 'Na i Nato'

Mae gwersyll i brotestwyr eisoes wedi cael ei sefydlu ym Mharc Tredegar gyda llond llaw o bebyll wedi'u gosod hyd yma.

Mae'r protestwyr yn dweud eu d yn disgwyl i fwy o ymgyrchwyr gyrraedd yn y dyddiau nesaf.

Mae aelodau Llafur o Gyngor Dinas Casnewydd wedi anfon llythyr agored at yr arweinwyr byd sy'n dod i'r gynhadledd gan alw am "atebion gwleidyddol, nid milwrol" i'r sefyllfa yn Gaza, wrth obeithio am gytuneb tymor hir rhwng Israel a'r Palesteiniaid.

"Rydym yn dymuno'n dda i chi yn eich ymdrechion i sicrhau heddwch yn y byd", dywedant.

Disgrifiad o’r llun,
Protest 'Na i Nato'

Ond mae Pippa Bartolotti, Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru ac un o drefnwyr y brotest 'Na i Nato' yn dweud bod y "Nato y mae nifer o bobl yn ei gofio fel grym i amddiffyn wedi troi'n rym i ymosod heb i neb fod yn llwyr ymwybodol bod y newid hwn wedi digwydd dros y 10 i 15 mlynedd diwethaf."

Ffyrdd ar gau yng Nghaerdydd

Yn y cyfamser, yng Nghaerdydd, bydd nifer o ffyrdd ar gau nos Sadwrn hyd at fore Sul er mwyn caniatau mwy o waith ar sefydlu'r ffens ddiogelwch o amgylch Castell Caerdydd a'r Coleg Cerdd a Drama lle bydd y pwysigion yn swpera.

Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud y bydd y briffordd i'r dwyrain a'r gogledd o Stryd y Castell i Ffordd y Gogledd ar gau rhwng 20.30 a 6.30 y bore.