Wrecsam 1- 2 Woking

  • Cyhoeddwyd

Colli oedd hanes Wrecsam ar y Cae Ras ddydd Sadwrn

Fe sicrhaodd dwy gôl gan ddynion Woking bod Wrecsam yn cael eu trechu am yr eildro y tymor hwn.

Woking darodd gyntaf gyda gôl arbennig gan Scott Rendell yn rhoi'r ymwelwyr ar y blaen wedi 23 munud.

Ond fe darodd y Dreigiau'n ôl cyn yr hanner pan saethodd Louis Moult y bêl i waelod cornel dde y rhwyd.

Dean Morgan seliodd y fuddugoliaeth i Woking yn dilyn rhediad igam ogam ar draws y cae.

Mae Wrecsam rwan yn cwympo i'r 11eg safle yn y Gyngres.