Portsmouth 0 - 1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
portsmouth v casnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Dyma yw buddugoliaeth gyntaf Casnewydd y tymor hwn.

Gôl hwyr yr eilydd Andy Sandell yn sicrhau buddugoliaeth i Gasnewydd yn Adran 2

Fe sicrhaodd gôl Sandell wedi 84 munud fuddugoliaeth gyntaf Casnewydd y tymor hwn.

Roedd yr eilydd wedi bod ar y cae am bedair munud yn unig cyn i'w gic rydd o ochr dde y cae osgoi pob amddiffynydd a chyrraedd y rhwyd.

Dyma'r tro cyntaf i Portsmouth golli y tymor hwn.

Peniad Kevin Feely yn ebryn y bar oedd yr agosaf i'r nail dîm neu'r llall ddod i sgorio yn yr hanner cyntaf.

Mae Casnewydd yn codi rhywfaint rwan i'r 19eg safle.