£2m i gyn-filwyr sal a di-gartref

  • Cyhoeddwyd
cyn-filwyrFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mi fydd y prosiect yn cefnogi cyn-filwyr sy'n sal, wedi'u hanafu neu'n ddigartref i allu addasu i fywyd tu allan i'r fyddin a chael swyddi.

Mi fydd dros £2 filiwn yn cael ei wario ar helpu cyn-filwyr y Gogledd a'r canolbarth dderbyn mwy o gefnogaeth cyffredinol a chymorth i'w cartrefu'n lleol wedi iddyn nhw adael y fyddin.

Mae prosiect 'The Veterans Accommodation Pathway' yn cefnogi cyn-filwyr sy'n sal, wedi'u hanafu neu'n ddigartref i allu addasu i fywyd tu allan i'r fyddin a chael swyddi.

Mi fydd cyfanswm o £2.2 miliwn yn cael ei ddefnyddio gan y prosiectau yn ardaloedd Wrecsam, Sir y Fflint a Cheredigion.

Mi fydd y prosiect yn cael ei redeg gan asiantaeth dai 'First Choice' ym Mhenarth ym Mro Morgannwg.

Bydd y nawdd gan Lywodraeth Prydain yn cael ei dalu o'r Gronfa Cartrefu Cyn-filwyr a sefydlwyd gydag arian o ddirwyon LIBOR y banciau Prydeinig.

Dyma'r ail brosiect yng Nghymru i dderbyn nawdd eleni.

Mae elusen Blind Veterans UK a BLESMA eisoes wedi derbyn £1.25m i gefnogi cyn-filwyr dall ac wedi'u hanafu ger Llandudno yn Sir Conwy.