Manga yn mudo at yr Adar Gleision

Bruno Manga Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r Gleision wedi cytuno ar ffi dros £5m am yr amddiffynwr canol cae 26 oed.

Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi cytuno ar ddêl i arwyddo Bruno Manga o glwb Lorient, Ffrainc.

Mae'r Gleision wedi cytuno ar ffi dros £5m am yr amddiffynwr canol cae 26 oed.

Mi fydd Manga, sy'n chwaraewr rhyngwladol dros Gabon, yn cael archwiliad meddygol yng Nghaerdydd ddydd Sul neu ddydd Llun.

Yn dilyn gêm gyfartal Caerdydd yn erbyn Fulham ddydd Sadwrn, fe ddywedodd y rheolwr, Ole Gunnar Solskjaer, ei fod yn awyddus i gael un ychwanegol yn ei garfan cyn i'r ffenestr drosglwyddo gau nos Lun.

Mae wedi bod yn edrych ar ffyrdd o gryfau ei dîm amddiffyn yn dilyn ymadawiad capten y tymor diwethaf, Steven Caulker, sydd wedi ymuno â Queen's Park Rangers ac anaf i figwrn Ben Turner.

Mi fydd y ffenestr drosglwyddo yn cau nos Lun.