Dim sylwebaeth Gymraeg i bêl-droed ar Sky Sports

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale
Disgrifiad o’r llun,
Mae Sky wedi cynnig sylwebaeth Gymraeg, ond maen nhw'n dweud mai ond 1000 sy'n ei ddefnyddio

Mae Sky Sports wedi cyhoeddi na fydd sylwebaeth Gymraeg ar gemau rhyngwladol Cymru sy'n cael eu dangos ar y sianel o hyn ymlaen.

Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae gwylwyr wedi gallu dewis rhwng sylwebaeth Gymraeg neu Saesneg, ond mae rhaglen y Post Cyntaf wedi darganfod na fydd hynny'n parhau.

Yn ôl Sky, mae nhw'n cael gwared â'r gwasanaeth er mwyn dangos mwy o gemau byw.

Maen nhw'n honni bod mwy o wylwyr yn gwylio gemau rhyngwladol eraill nag sydd yn defnyddio'r sylwebaeth Gymraeg.

Dywedodd y sianel mai tua 1,000 o bobl sy'n defnyddio'r sylwebaeth Gymraeg, ac ar un achlysur, roedd mor isel â 200.

Mewn datganiad, dywedodd Sky Sports eu bod yn "ymdrechu bob amser i ddarparu gwasanaethau ychwanegol pan fo hynny'n bosib, ond mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau yn ddibynnol ar le mae'r galw mwyaf gan gwsmeriaid".

"Gyda phwysau mawr ar ein gallu cynhyrchu a thechnegol o gynnig hyd at naw gêm rhyngwladol y noson, dydyn ni ddim mewn sefylla ar hyn o bryd i allu cynnig gwasanaeth sylwebu ychwanegol."

Ffynhonnell y llun, Sky
Disgrifiad o’r llun,
Mae Sky wedi dweud eu bod yn gorfod blaenoriaethu yn ddibynnol ar alw cwsmeriaid

'Penderfyniad siomedig'

Yn siarad ar Raglen Dylan Jones fore Llun, dywedodd Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, bod y penderfyniad yn un siomedig.

"Yn naturiol mae rhywun yn siomedig bod Sky wedi gwneud y penderfyniad yma, yn wahanol i'r gorffennol roedd unrhyw drafodaethau ynglŷn â hawliau teledu yn cymryd rhan rhwng y Gymdeithas Bêl-Droed a'r cwmnïau fel Sky a'r BBC ac S4C," meddai.

"Ond rŵan mae Uefa wedi prynu'r hawliau i gyd gan bob gwlad yn Ewrop, 52 o wledydd yn ganolog, a nhw oedd yn trin a thrafod gyda'r cwmnïau darlledu, felly dydy'r rhan o'r cytundeb lle oedd darlledu yn y Gymraeg yn orfodol neu'n ddymunol ddim wedi cael ei drafod y tro 'ma gan nad oedd Sky yn trafod gyda ni yn uniongyrchol."

"Mae'n siomedig achos mae ein polisi dwyieithog ni yn un cryf, ac rydyn ni'n ymwybodol bod llawer o'r cefnogwyr ni yn Gymry Cymraeg... Ond be' arall sy'n anffodus yw'r ffigyrau sydd wedi eu datgelu.

"Mae'r gwasanaeth ar gael, ac eto mae'n amlwg nad ydy'r Cymry Cymraeg yn dewis gwylio'r gemau drwy gyfrwng y Gymraeg."

Ychwanegodd y dylai darlledwyr eraill fel y BBC ac S4C wneud mwy i geisio dangos y gemau, a sicrhau bod sylwebaeth Gymraeg ar gael.

"Dwi'n credu fyddai hynny yn sefyllfa wych, y peth ydi, mae cytundebau teledu wedi mynd mor gostus... A 'da ni'n gwybod am y sefyllfa sydd gan y BBC ac S4C o ran toriadau, maen nhw'n gorfod dewis a dethol o ran chwaraeon."

"Mae'r BBC ac S4C yn gorfod meddwl am chwaraeon eraill yn ogystal â drama, cerddoriaeth, newyddion ac yn y blaen. Dydy'r arian ddim ar gael ac yn anffodus mae pethau wedi mynd fel yna.

"Hyd yn oed petai S4C a'r BBC yn dod at ei gilydd falle na fydden nhw'n gallu fforddio gwneud hynny. Ond falle mewn byd delfrydol dyna fyddai rhywun yn ei ddymuno."