Y chwilio yn parhau am Isaac Nash
- Cyhoeddwyd

Roedd Isaac Nash, o ardal Huddersfield, ar wyliau gyda'i deulu pan aeth i drafferthion yn y môr.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod yn parhau i chwilio am fachgen aeth ar goll oddi ar arfordir Ynys Môn ddydd Gwener.
Cafodd Isaac Nash, 12, ei ysgubo allan i'r môr yn Aberffraw wrth chwarae gyda ffrind yn y dŵr.
Mae Gwylwyr y Glannau yn cynorthwyo'r heddlu i chwilio am y pedwerydd diwrnod.
Dywedodd yr heddlu bod tîm deifio a hofrennydd hefyd wedi bod yn chwilio dros y penwythnos.
Roedd teulu Isaac wedi helpu yn y chwilio ddydd Sadwrn, ond dywedodd yr heddlu eu bod wedi dychwelyd i'w cartref yn ardal Huddersfield erbyn hyn.
Ddydd Sul, roedd y chwilio yn canolbwyntio ar yr ardal rhwng Aberffraw ac Ynys Llanddwyn.
Straeon perthnasol
- 31 Awst 2014
- 30 Awst 2014