Uwchgynhadledd Nato yn 'gyfle enfawr' i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae Uwchgynhadledd Nato yn "gyfle enfawr" i economi Cymru, yn ôl cyfarwyddwr gwesty'r Celtic Manor.
Bydd dros 60 o arweinwyr gwledydd y byd yn y gwesty ddydd Iau, rhywbeth all fod yn "fuddiol iawn os yw Cymru yn arddangos ei hun yn iawn".
Yn ysgrifennu adroddiad i fanc Barclays, dywedodd Simon Gibson y byddai "pob gwesty rhwng Abertawe a Swindon" yn llawn.
Wrth i'r uwchgynhadledd nesáu, mae niferoedd yr heddlu yn ne Cymru wedi cynyddu, gyda phresenoldeb heddlu arfog ar strydoedd Caerdydd.
'Cyfnod pwysig'
Bydd 61 o arweinwyr gwledydd y byd yng Nghasnewydd ar gyfer yr Uwchgynhadledd ddiwedd yr wythnos.
Pan gafodd yr Uwchgynhadledd ei chynnal yn Chicago yn 2012, yr amcangyfrif yw ei fod wedi cyfranu £77m i'r economi leol.
Mae disgwyl 1,500 o newyddiadurwyr yng Nghasnewydd ar gyfer y digwyddiad, ond mae adroddiad Barclays yn awgrymu y bydd miloedd mwy mewn gwirionedd, o'i gymharu â'r 900 oedd yno ar gyfer y Cwpan Ryder yn 2010.
Dywedodd Mr Gibson, cyfarwyddwr y Celtic Manor: "Mae hwn yn gyfnod hynod o bwysig i Gymru ac ni allwn danbrisio ei arwyddocâd.
"Uwchgynhadledd Nato yw'r digwyddiad mwyaf o'i fath i gael ei gynnal yn y DU ers 30 mlynedd.
"Bydd 61 o arweinwyr gwledydd yma. Dyma fydd y tro cyntaf i Arlywydd yr Unol Daleithiau ddod i Gymru. Mae'n bwysicach na'r Cwpan Ryder."
'Dinas arwyddocaol'
Yn yr adroddiad, dywedodd arweinydd Cyngor Casnewydd, Bob Bright: "Yn hir ar ôl i'r cynrychiolwyr adael, bydd Casnewydd yn cael ei adnabod fel dinas arwyddocaol dros y byd gyda'r gallu i gynnal cynhadledd lwyddiannus ac sy'n ganolog i lwyddiant economi Cymru."
Mae'r adroddiad, sydd wedi defnyddio data gan fusnesau Cymru, yn dweud bod 24,000 o nosweithiau mewn ystafelloedd gwestai wedi eu cadw yng Nghasnewydd, Caerdydd a Bryste.
Yn ol Graham Morgan, cyfarwyddwr Siambr Fasnach De Cymru: "Mae'n hanfodol bod y gynhadledd yn rhedeg heb gymhlethdodau a bod y byd yn cael yr argraff bod Cymru yn wlad all lwyddo wrth drefnu digwyddiadau mawr fel hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2014
- Cyhoeddwyd30 Awst 2014
- Cyhoeddwyd28 Awst 2014