Rhoi'r gorau i gynllun ynni'r llanw ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Argraff artist o dyrbeini sy'n defnyddio ynni'r môr
Disgrifiad o’r llun,
Argraff artist o dyrbeini sy'n defnyddio ynni'r môr

Ni fydd cynllun ynni llanw gwerth miliynau o bunnoedd yn mynd yn ei flaen am y tro.

Roedd cwmniau Marine Current Turbines a Siemens wedi bwriadu adeiladu fferm lanw, ond ddydd Llun cafodd datganiad ei ryddhau yn cadarnhau bod y cynllun yn cael ei ohirio am y tro.

Yn ôl y datganiad: "Yn dilyn trafodaeth gydag ein partneriaid rydym wedi penderfynu rhoi'r gorau i'n gwaith ar Fferm Lanw Ynysoedd y Moelrhoniaid yn Ynys Môn am y tro.

"Byddwn yn parhau i adolygu ein strategaeth ac mae ein trafodaethau gydag ein cyflenwyr a'n budd-ddeiliaid yn parhau ynglŷn â chyfleoedd eraill.

"Rydym yn parhau i gredu y bydd ynni'r llanw'n chwarae rhan bwysig yn y dyfodol er mwyn sicrhau economi carbon isel y DU a chreu swyddi sy'n gynaliadwy yn y tymor hir."

'Siomedig'

Wrth ymateb i'r datganiad, dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn: "Yn naturiol, rydym yn siomedig fod cwmni Marine Current Turbines a Siemens wedi penderfynu rhoi'r gorau i'r cynllun i greu Fferm Lanw Ynysoedd y Moelrhoniaid am y tro.

"Yn anffodus mae penderfyniadau fel hyn yn rhan o natur y sector ynni. Serch hynny, rydym yn parhau i gefnogi nod Rhaglen Ynys Ynni, sef rhoi Ynys Môn ar y map o safbwynt ymchwilio i ynni a'i ddatblygu, ei gynhyrchu a'r gwasanaethau cysylltiedig, gyda hynny yn ei dro yn arwain o bosib at fanteision economaidd anferthol.

"Er enghraifft, rydym yn cefnogi Menter Môn gyda Chynllun Morlais, sydd yn ceisio lleihau'r rhwystrau i ddatblygwyr technoleg morwrol, gyda'r uchelgais o gynhyrchu hyd at 120MW o drydan ar gyfer 25,000 o gartrefi."

Yr ymateb gwleidyddol

Dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn "siomedig iawn" a'i fod yn "gobeithio y bydd y prosiect hwn yn cael ei adfer cyn gynted â phosibl.

"O ran y dechnoleg, mae hwn yn gyfle i'r ynys arwain y byd. Mae hi'n gwbl hanfodol bod y cynllun yn mynd yn ei flaen."

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Albert Owen, wedi ymateb i'r newyddion drwy ddweud ei fod yn "siomedig iawn a bod angen sicrhau bod y math yma o brosiect yn mynd yn ei flaen. Mae hwn yn newyddion siomedig i economi'r ynys."

Dywedodd y byddai'n cyfarfod â chynrychiolydd o'r cwmni cyn gynted â phosibl, gan obeithio y byddai'r cyfarfod yn digwydd wythnos nesaf.