Bwrdd Iechyd: £560,000 mewn iawndal i gleifion
- Published
Mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi talu dros £560,000 mewn iawndal i gleifion yn y flwyddyn ddiwethaf.
Rhwng Ebrill 2013 a mis Mawrth eleni, mae byrddau iechyd ar draws Cymru wedi talu cyfanswm o £21.8 miliwn mewn iawndal, gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, yn talu £564,733.
Mewn adroddiad sy'n cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r bwrdd wythnos yma, dywedodd Vicky Morris, cyfarwyddwr dros dro sicrwydd ansawdd, bod 1,743 o gwynion ffurfiol wedi eu derbyn yn ystod y flwyddyn, cynnydd o 143, neu 9%, ar y flwyddyn flaenorol.
Yn y gorffennol mae'r bwrdd wedi cael eu beirniadu am yr oedi wrth iddyn nhw ymdrin â chwynion ac yn 2013-14 dim ond 33% o gwynion dderbyniodd ymateb o fewn y cyfnod gofynnol o 30 diwrnod, a hynny i'w gymharu â 40-43% yn y flwyddyn flaenorol.
Mae rhai cwynion yn parhau i ddisgwyl am ymateb ar ôl dros 12 mis.
'Archwilio unwaith, archwilio'n gywir'
Dan ymgyrch "Rhoi Pethau'n Gywir" Llywodraeth Cymru dylai pob mudiad o fewn GIG Cymru anelu i "archwilio unwaith, archwilio'n gywir", ond mae Mrs Morris yn dweud ei fod wedi rhoi'r bwrdd mewn sefyllfa anodd, yn enwedig gyda chymaint o gwynion a cheisiadau heb dderbyn ymateb.
Yn ôl yr adroddiad: "Mae gweithredu sylweddol wedi digwydd, ond nid ydi'r gwelliannau a'r newid wedi digwydd yn ddigon cyflym i roi hyder i'r cyhoedd."
Dywedodd Mrs Morris bod diffyg systemau a phrosesau effeithiol, a chefnogaeth cleifion a'r rheiny sydd wedi gwneud cwynion, wedi arwain at 79 o gwynion yn cael eu cyfeirio at Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a chafwyd ymchwiliad i 59 o'r rheiny.
Roedd oedi wrth ymateb i ymholiadau'r Ombwdsman wedi arwain at "ddiffyg hyder sylweddol yn y Bwrdd Iechyd".
'Digwyddiadau anffafriol'
Yn ogystal dywedodd Mrs Morris bod 23,876 o "ddigwyddiadau anffarfiol" wedi eu cofnodi yn y rhanbarth yn 2013-14. O'r rheiny roedd 17,721 yn ymwneud â diogelwch cleifion, 13,091 yn ddigwyddiadau "ddi-nod", ond roedd 95 yn "drychinebus".
O'r 95, roedd 29 yn ymwneud ag ymddygiad treisgar, ymosodol neu hunan-niweidiol, 15 yn ymwneud â methiant i wneud diagnosis neu oedi wrth wneud diagnosis, 14 yn ymwneud â gweithredu gofal a roedd 12 yn ddamweiniau a allai fod wedi achosi anaf personol.
Yn yr un cyfnod roedd chwech o ddigwyddiadau difrifol sy'n cael eu galw'n "Never Events". Mae Llywodraeth Cymru a'r Adran Iechyd yn dweud bod rhaid ymchwilio i'r fath ddigwyddiadau er mwyn eu hatal rhag digwydd eto yn y dyfodol.
Ymysg y chwe digwyddiad roedd dau achos o gamweinyddu inswlin, un achos o gam-adnabod claf ac un achos o fewnblaniad neu brosthesis anghywir.
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Gorffennaf 2014
- Published
- 5 Mehefin 2014
- Published
- 2 Mai 2014
- Published
- 20 Mawrth 2014