Arwr Tawel BBC Cymru 2015
- Cyhoeddwyd

Nodyn: Daeth y cyfnod enwebu i ben am 23:59 BST ar Ddydd Iau, 22 Hydref
Ydych chi'n 'nabod rhywun sy'n ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn eu cymuned?
Gallai fod yn berson sy'n rhoi ei amser i annog eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon, neu rywun sy'n helpu i ddarganfod pencampwr y dyfodol, neu efallai mai e neu hi sy'n cynnal y tîm neu'r clwb lleol.
Mae gwobr Arwr Tawel Get Inspired y BBC wedi bod yn cael ei chynnal ers 2003 i gydnabod cyflawniadau nodedig pobl dros Brydain. Er mwyn eich helpu chi i gydnabod arwr tawel yn eich cymuned, dyma gyfle i gyfarfod enillydd llynedd.
Yn dilyn y cyfnod enwebu, bydd paneli'n cyfarfod ym mhob un o'r 15 Rhanbarth a Gwlad gan ddewis un enillydd o bob ardal.
Bydd un enillydd yn cael ei ddewis o blith y 15 yma, gyda'r enw yn cael ei gyhoeddi yn ystod rhaglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ym Melffast, nos Sul, 20 Rhagfyr.
Os hoffech chi gofrestru'ch diddordeb mewn enwebu rhywun ar gyfer flwyddyn nesa', e-bostiwch unsunghero@bbc.co.uk ac fe gysylltwn ni â chi pan fydd y cyfnod enwebu'n agor.
Mae yna angen mawr am fwy o arwyr tawel o fewn y maes chwaraeon ym Mhrydain. Os ydych chi wedi cael eich hysbrydoli ac yn awyddus i gymryd rhan drwy helpu chwaraeon o fewn eich cymuned, ewch i ganllaw gwirfoddoli Get Inspired. Mae yna hefyd dudalen penodol ar gyfer hyfforddi.
Daeth y cyfnod enwebu i ben am 23:59 BST ar Ddydd Iau, 22 Hydref