Llawdriniaeth i gyn brop Cymru Rhys Thomas
- Cyhoeddwyd

Mae cyn brop rhyngwladol Cymru, Rhys Thomas, yn cael llawdriniaeth ddydd Mawrth i baratoi ar gyfer trawsblaniad calon.
Cyhoeddodd Thomas, 32 oed, ei ymddeoliad o rygbi yn Ebrill 2012 ar ôl dioddef trawiad ar y galon ym mis Ionawr y flwyddyn honno.
Dywedodd ei asiant wrth y BBC ddydd Mawrth: "Rwy'n gallu cadarnhau ei fod yn cael llawdriniaeth heddiw i baratoi am drawsblaniad y galon yn y dyfodol agos."
Ymhlith cyn gyd-chwaraewyr Thomas oedd yn dymuno yn dda iddo ar Twitter, roedd canolwr Cymru a'r Scarlets Scott Williams, a ysgrifennodd: "Pob hwyl gyda'r llawdriniaeth".
Dywedodd wythwr y Gweilch, Joe Bearman, "Rydym yn meddwl amdanat".
Enillodd Thomas ei seithfed cap i Gymru yn 2009 ar ôl ennill y cyntaf yn erbyn Ariannin yn 2006.
Cafodd ei eni yn Ne Affrica, ond dechreuodd ei yrfa broffesiynol yng Nghymru gan ddechrau yng Nghasnewydd - cartref ei dad - yn 2003.
Ymunodd â'r Scarlets yn 2009 yn dilyn cyfnod llwyddiannus gyda'r Dreigiau.
Sgoriodd naw cais mewn 52 ymddangosiad i'r Scarlets.