Nato: Ateb eich cwestiynau

Gwesty'r Celtic Manor Image copyright PA
Image caption Gwesty'r Celtic Manor yw lleoliad yr uwchgynhadledd

Heddiw a dydd Gwener fe fydd Cymru yn cynnal y cyfarfod mwyaf o arweinwyr rhyngwladol ym Mhrydain, uwchgynhadledd Nato yng Nghasnewydd.

Ond beth yn union ydy Nato? Pam bod Cymru'n cynnal yr uwchgynhadledd? A beth yn union fydd arweinwyr y byd yn ei wneud yng Nghymru?

Image copyright AFP/AFP/Getty Images
Image caption Cytundeb Nato'n cael ei arwyddo yn '49

Beth yw Nato?

Hon yw'r gynghrair filwrol rynglywodraethol gafodd ei sefydlu ym 1949 i gefnogi Cytundeb Gogledd yr Iwerydd ac arwyddwyd yn Washington D.C. ar 4 Ebrill, 1949. Yr enw llawn yw Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd.

Y syniad tu ôl i Nato yn 1949 oedd diogelwch ar y cyd yn erbyn yr Undeb Sofietaidd. Yn ôl Cymal V Cytundeb Washington - "mae ymosodiad ar unrhyw aelod Nato yn golygu ymosodiad ar bawb".

Erbyn heddiw mae pwrpas Nato wedi ehangu i gynnwys amddiffyn rhag terfysgaeth ac ymosodiadau seiber. Ers ei sefydlu wedi'r Ail Ryfel Byd mae wedi gorfod ailddiffinio ei ffocws fel cynghrair filwrol a gwleidyddol.

Image caption Mae 28 gwladwriaeth yn aelodau o Nato

Ei phwrpas hanfodol yw diogelu rhyddid a diogelwch ei haelodau trwy ddulliau gwleidyddol a milwrol. Erbyn hyn mae 28 o aelodau - yn 1949 fe oedd 12: Gwlad Belg, Canada, Denmarc, Ffrainc, Gwlad yr Iâ, yr Eidal, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, Norwy, Portiwgal, y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau.

Ers hynny mae'r gynghrair yn cynnwys: Gwlad Groeg a Thwrci (1952) , Yr Almaen (1955) , Sbaen (1982) , y Weriniaeth Tsiec , Hwngari a Gwlad Pwyl (1999) , Bwlgaria , Estonia, Latfia, Lithwania, Rwmania, Slofacia, Slofenia (2004) ac Albania a Croatia (2009).

Pam bod yr uwchgynhadledd yng Nghymru?

Image caption Tro Cymru yw hi i gynnal digwyddiad rhyngwladol, yn ôl Mr Cameron

Mae pob aelod yn ei dro yn cael cyfle i gynnal yr uwchgynhadledd. Y tro diwethaf iddi gael ei chynnal oedd yn Chicago ddwy flynedd yn ôl. Dyw hi heb gael ei chynnal ym Mhrydain ers 1990 yn Llundain pan oedd Margret Thatcher yn Brif Weinidog.

Yn ôl y Prif Weinidog presennol David Cameron roedd yn hen bryd i Gymru gynnal y digwyddiad: "Cawsom y G8 yng Ngogledd Iwerddon, y Gemau Olympaidd yn Llundain a Gemau'r Gymanwlad yn yr Alban - tro Cymru yw hi ar gyfer un o'r digwyddiadau mawr," meddai.

Pwy fydd yn dod i'r uwchgynhadledd?

Image caption Mi fydd Angela Merkel ymysg yr arweinwyr byd yn bresennol

Fe fydd tua 60 o arweinwyr ac uwch weinidogion yn dod i Gymru, gan gynnwys yr Arlywydd Obama, Canghellor yr Almaen Angela Merkel ac Arlywydd Ffrainc François Hollande.

Cost cynnal yr uwchgynhadledd?

Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r gwaith diogelwch ar raddfa fwy nac erioed ym Mhrydain, yn ôl arbenigwyr

Nid yw cost y gynhadledd wedi cael ei datgelu ond fe fydd 9,500 o blismyn yn rhan o'r ymgyrch ddiogelwch. Yn ôl un swyddog sy'n gyfrifol am ddiogelwch i'r gynhadledd, mae'r gwaith yn torri tir newydd ac yn "hollol ddieithr" i'r Deyrnas Unedig.

Beth fydd yr arweinwyr yn ei drafod?

Image caption Rhai o filwyr Nato yn ymarfer

Mae'r uwchgynhadledd yn cael ei chynnal wrth i'r ymgyrch filwrol hiraf yn ei hanes yn Afghanistan ddirwyn i ben. Mae yna hefyd bryder am ddatblygiadau yn yr Wcráin, ac yn y dwyrain canol lle mae'r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn fygythiad.

Bydd arweinwyr y byd yn gobeithio mynd i'r afael â materion sy'n bygwth diogelwch gwladwriaethau Nato yn ystod sesiynau yn y Celtic Manor a digwyddiadau mwy anffurfiol yng Nghaerdydd.

Yn ôl Downing Street, dyma fydd y blaenoriaethau ar gyfer Uwchgynhadledd Nato Cymru:

1. Argyfwng yn y Wcráin a'r berthynas â Rwsia;

2. Dyfodol Afghanistan;

3. Mynd i'r afael â bygythiadau newydd;

4. Cryfhau cefnogaeth i'w Lluoedd Arfog;

5. Cryfhau partneriaethau.

Pam y protestio?

Image caption Rhai o aelodau Na i Nato mewn protest yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn

Mae disgwyl i tua 20,000 o brotestwyr ymgynnull yng Nghasnewydd. Bydd clymbleidiau o grwpiau protest, gan gynnwys yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear, Na i Nato, Stopiwch y Rhyfel i enwi dim ond rhai. Maen nhw'n galw am ddiarfogi niwclear ac eisiau gweld diwedd ar yr hyn maen nhw'n ei ystyried yn bolisi tramor imperialaidd y Gorllewin.

Beth fydd yr effaith ar drafnidiaeth yng Nghaerdydd a Chasnewydd?

Casnewydd

Mae ffyrdd ar gau yng Nghasnewydd yn yr ardal o amgylch y Celtic Manor ar gyrion y ddinas. Mae ffens 13.5 o gilomedrau (8 milltir) o amgylch y gwesty. Ond fe fydd ffyrdd eraill ar gau yn y ddinas:

  • Heol Catsash ar gau o'r gyffordd ar Belmont Hill ar y B4236 at y gyffordd â Ffordd Rufeinig;
  • Heol Bulmore ar gau o dafarn y Bell yng Nghaerllion i'r gyffordd â Heol Abernant;
  • Bydd pob llwybr troed sy'n croesi'r Celtic Manor ar gau.

Fe fydd y ffyrdd yn cael eu hailagor am 07:00 ddydd Sadwrn.

Mae manylion trafnidiaeth y llywodraeth wedi dweud nad oes unrhyw fwriad i gau'r M4 ar unrhyw adeg ac y bydd "amharu sylweddol" ond yn digwydd mewn mannau.

Ardal Caerdydd

Yng nghanol dinas Caerdydd mae ffensys diogelwch wedi cael eu gosod ac wedi arwain at lôn cau o amgylch Castell Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae cyngor Caerdydd yn annog trigolion i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gyfleusterau parcio a theithio ym Mhentwyn a Lecwydd.

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi dweud ei fod yn paratoi ar gyfer un o'r digwyddiadau mwyaf erioed o'i fath yn y DU. Bydd 100 o staff ychwanegol ar ddyletswydd i redeg terfynell ychwanegol dros dro a adeiladwyd yn benodol.

Bydd ffordd y gorllewin i'r maes awyr o Lanilltud Fawr yn cau o dro i dro, ond bydd yr heol ddwyreiniol o Gaerdydd a'r Barri yn aros ar agor.

Mae Trenau Arriva Cymru yn cynyddu'r nifer o drenau rhwng Casnewydd a Chaerdydd yn ystod uwchgynhadledd Nato. Fe fydd hefyd fwy o staff ar orsafoedd trenau i ddelio gyda 25,000 o deithwyr ychwanegol disgwyliedig.

Effaith hir dymor ar Gymru?

Fe fydd problemau traffig yn ystod yr uwchgynhadledd ond ar ôl i'r holl drafod dod i ben beth fydd yr effaith ar Gymru? Yn ôl llywodraeth y Deyrnas Unedig mae dod â'r uwchgynhadledd i Gymru yn gyfle i arddangos Cymru i'r byd, gan dynnu sylw at ac arddangos y potensial aruthrol yng Nghymru ar gyfer buddsoddi a busnes, twristiaeth ac astudio.

Straeon perthnasol