Maule yn gadael y Scarlets
- Published
Ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd y Scarlets fod eu cyn-gapten, Gareth Maule yn gadael y rhanbarth i "fachu ar gyfle newydd" gyda Rygbi Bryste.
Mae Maule yn cael ei ryddhau o'i gytundeb flwyddyn yn fuan.
Fe ymunodd y canolwr â'r Scarlets yn 2009, wedi cyfnod gyda'r Dreigiau.
Mae o hefyd wedi chwarae i Lyn Ebwy, Casnewydd a Cross Keys.