'Gwersi wedi eu dysgu' o farwolaeth Jamie Shadrake

Jamie Shadrake Image copyright MOD
Image caption Dywedodd y crwner na fyddai ail filwr o reidrwydd wedi atal y farwolaeth

Wrth gyhoeddi rheithfarn naratif, mae crwner cwest i farwolaeth milwr o Wrecsam gafodd ei ladd yn Afghanistan wedi dweud ei fod yn sicr bod gwersi wedi eu dysgu.

Bu farw Jamie Shadrake, o Fataliwn 1af Gwarchodlu'r Grenadwyr ar ôl cael ei saethu yn nhalaith Helmand ym mis Awst 2012.

Dywedodd y crwner, John Gittins, ei fod yn sicr "lle oedd gwersi i'w dysgu, roedden nhw wedi eu dysgu yn sydyn iawn a'u gweithredu yn ddigonol" wedi'r ymosodiad ar fan archwilio dros dro.

Ychwanegodd na allai fod yn sicr y byddai presenoldeb ail filwr wedi atal marwolaeth Mr Shadrake oherwydd pa mor ffyrnig oedd yr ymosodiad ar y safle.

Lladd anghyfreithlon

Casglodd fod y milwr wedi ei ladd yn anghyfreithlon wrth wasanaethu gyda'r fyddin.

Wedi'r cwest fe ddywedodd ei fam, Cathryn Griffiths: "Roedd Jamie yn fab ardderchog, yn frawd a ffrind heb ei ail. Chaiff o byth ei anghofio a 'dan ni'n ei garu a'i gofio bob dydd - mae o yn ein meddyliau a'n calonnau.

"Roedden ni'n credu yn Jamie, ac yn ei waith yn Afghanistan. 'Dan ni'n gwybod fod ei aberth wedi helpu pobl Afghanistan.

"Fel teulu, 'dan ni'n ddiolchgar am gymorth a chefnogaeth Gwarchodlu'r Grenadwyr yn ystod yr amser heriol hwn."