Y canwr John Jones yn ymddiheuro am sylw ar Twitter

  • Cyhoeddwyd
John Jones

Mae'r canwr a'r cyflwynydd Radio Cymru John Jones wedi ymddiheuro ar ôl gwneud sylw ar wefan gymdeithasol oedd "yn gwbwl annerbyniol" yn ôl BBC Cymru.

Roedd John Jones yn ymateb, ar ei gyfrif personol, i drydariad am y sefyllfa ym Mhacistan, a deallir ei fod wedi dweud: "Gormod ohonynt yn y wlad yma beth bynnag".

Ymddiheurodd am "sylwadau gwirion" mewn neges arall.

Ffynhonnell y llun, Other

Wrth siarad â BBC Cymru ddydd Mawrth, ychwanegodd: "Sylw spur of the moment oedd o, ac rwy'n difaru ei 'sgwennu o ac felly mi wnes i ei ddileu'n syth."

Doedd e ddim am wneud sylw pellach.

John Jones yw hanner y ddeuawd canu gwlad John ac Alun sydd wedi cyflwyno rhaglen ar BBC Radio Cymru ers 1998.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Ry' ni'n ymwybodol o'r sylwadau wnaeth John ar ei gyfrif trydar personol.

"Fe wnaethon ni siarad ag e ddoe a dweud yn glir wrtho fod ei sylwadau yn gwbwl annerbyniol.

"Mae'n derbyn hynny'n llwyr ac ry'n ni'n falch o weld ei fod wedi ymddiheuro.

"Rydym wedi ysgrifennu yn ffurfiol at John Jones heddiw yn amlinellu'r safonau uchel yr ydym yn eu disgwyl gan ein cyflwynwyr, p'un a ydynt yn gwneud sylwadau ar ein gwasanaethau ein hunain neu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol preifat, fel yn yr achos yma.

"Mae'n gwybod ein bod yn disgwyl iddo gadw at y safonau hyn yn y dyfodol."