Teithwyr llong yn rhoi hwb i fusnesau yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Bydd arweinwyr busnes yn Sir Benfro yn rhoi croeso cynnes i long foethus o'r Almaen sy'n ymweld â Sir Benfro ddydd Mercher.
Bydd bron i 500 o deithwyr yn ymweld ag Aberdaugleddau ar ôl i'r MS Astor gyrraedd y porthladd. Hon fydd yr ail o dair llong sy'n ymweld â Sir Benfro o fewn wythnos.
Mae penaethiaid y diwydiant twristiaeth wedi darparu bysiau gwennol yn rhad ac am ddim, er mwyn i deithwyr allu ymweld ag atyniadau fel arddangosfa o geir clasurol a chasgliad o adar ysglyfaethus.
Dywedodd Sue Blanchard Williams o Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau bod disgwyl i deithwyr llongau'r wythnos wario tua £120,000.
Fe wnaeth ymweliad y MS Astor ddilyn ymweliad MS Delphin i borthladd Doc Penfro ddydd Sadwrn diwethaf. Bydd y MV Discovery yn cyrraedd Aberdaugleddau ddydd Gwener ar ôl teithio o Lerpwl. Bydd y llong hefyd yn ymweld ag Iwerddon ac Ynysoedd Syllan.