Barack Obama wedi cyrraedd Cymru ar gyfer uwchgynhadledd Nato
- Cyhoeddwyd

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi cyrraedd Casnewydd ar gyfer Uwchgynhadledd Nato yn y ddinas.
Cafodd Mr Obama ei gludo i ganolfan yr Awyrlu yn Sir Gaerloyw yn ei awyren bersonol, Air Force One, cyn symud i'r hofrennydd, Marine One, i orffen ei daith i Gymru.
Yn gynharach, fe gyrhaeddodd David Cameron cyn i 60 o arweinwyr eraill gyrraedd gwesty'r Celtic Manor ddydd Iau a Gwener.
Mr Obama yw'r arlywydd cyntaf i ymweld â Chymru tra'n dal i fod yn y swydd ac mae disgwyl iddo aros yng Nghasnewydd dros nos.
Amddiffynnodd Mr Cameron ei sylwadau am y Gwasanaeth Iechyd, gan ddweud bod ei feirniadaeth am amseroedd aros i gleifion canser a galwadau 999 yn gyfiawn.
Dywedodd hefyd y byddai cytundeb ynglŷn â thalu am drydaneiddio'r rheilffyrdd yng Nghymru "yn fuan".
Negeseuon croeso
Mae fideo yn cynnwys negeseuon croeso sêr fel Matthew Rhys a Bryn Terfel yn cael ei ddangos i'r Arlywydd.
Syniad y Prif Weinidog Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru oedd y cynhyrchiad a'r nod yw hyrwyddo Cymru fel lle ar gyfer buddsoddiad busnes a chyrchfan i ymwelwyr.
Dywedodd Mr Jones: "Bydd uwchgynhadledd Nato yn gyfle unigryw i godi ymwybyddiaeth y byd am Gymru fel lle i ymweld ag e a lle i ddod â busnes.
"Er mai dim ond digwyddiad deuddydd yw'r uwchgynhadledd, rydyn ni wedi bod yn gweithio i sefydlu partneriaethau newydd i Gymru a gweithgarwch â gwerth hirdymor.
"Mae'r ymgyrch wedi canolbwyntio ar gryfderau Cymru fel gwlad fach sydd â llu o gysylltiadau masnach, a lle mae prifysgolion, diwydiant a busnes yn cydweithio'n agos."
Bore Iau mae yna gynlluniau i Mr Obama ymweld ag ysgol leol ynghyd â'r Prif Weinidog David Cameron, cyn mynychu'r uwchgynhadledd.
Mae yna rybuddion am fwy o brysurdeb ar y ffyrdd rhwng Casnewydd a Chaerdydd, yn ogystal â maes awyr Caerdydd.
Hefyd mae nifer o longau rhyfel wedi cyrraedd Caerdydd ar gyfer yr uwchgynhadledd.
Negeseuon
Yn y cyfamser, mae disgyblion ysgolion cynradd o bob rhan o Gymru wedi ymuno â'r prif weinidog Carwyn Jones yn y Senedd ym Mae Caerdydd er mwyn dadorchuddio eu negeseuon personol am eu gobeithion am y dyfodol.
Negeseuon dwyieithog sydd ar y cardiau post, sy'n ateb y cwestiwn "beth hoffech chi fod wedi newid yn y byd erbyn i chi fod yn oedolion?".
Maen nhw'n cynnwys Natalie Hamlin, 10 oed, o Ysgol Pencae yng Nghaerdydd, a ddywedodd "rwy' eisiau i fy nheulu i fod yn hapus ac yn ddiogel, a phob teulu arall yn y byd" a Kian Wyn Thomas, 10 oed, o Ysgol yr Hendre, Caernarfon, a ddywedodd "pan fydda' i'n hŷn rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cael eu trin yn gyfartal beth bynnag yw lliw eu croen".
Fe fydd eu negeseuon yn cael eu cyflwyno i arweinyddion Nato.
'Llwyfan rhyngwladol'
Mae swyddogion Celtic Manor wedi dweud eu bod nhw eisiau defnyddio'r achlysur ar gyfer gwerthu Cymru i weddill y byd.
Dywedodd prif swyddog y gwesty mai'r gobaith yw y bydd yr uwchgynhadledd yn "sbardun i ddenu mwy o ddigwyddiadau mawr i Gymru".
Ychwanegodd Ian Edwards: "Y peth pwysig i Gymru yw bod ar y llwyfan rhyngwladol yna.
"Nid rhywbeth am Celtic Manor yw hyn, mae ynglŷn â Chymru a dangos ein bod ni'n gallu tynnu pethau at ei gilydd a chynnal digwyddiad fel hyn."
Straeon perthnasol
- 30 Awst 2014
- 18 Awst 2014
- 8 Awst 2014
- 7 Awst 2014