Dwy ddamwain ar yr A55

A55
Image caption Mae'r A55 wedi ei chau rhwng Cyffordd Llandudno a Glan Conwy

Mae lôn orllewinol yr A55 rhwng cyffyrdd 18 ac 19 bellach wedi ailagor yn dilyn dwy ddamwain ger Llandudno yn gynnar bore Mercher.

Mae un person wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei dorri'n rhydd o'i gerbyd.

Bu gwrthdrawiad rhwng dwy lori am 02:45am, a gwrthdrawiad arall yn ymwneud â fan am 04:30am.

Mae'r heddlu'n rhybuddio bod oedi hir yn debygol ar y ffordd, wrth i'r traffig gael ei anfon ar hyd yr A470 tua Glan Conwy.