Cwmni therapi celloedd Cytori yn creu swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni therapi celloedd o America yn sefydlu ei bencadlys Ewropeaidd yn ardal fenter Glannau Dyfrdwy, gan greu 30 o swyddi.
Mae pencadlys Cytori Therapeutics yn San Diego, ond mae'n symud ei bencadlys Ewropeaidd presennol o'r Swistir.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig hyd at £450,000 o gyllid busnes i'r cwmni sy'n datblygu therapïau celloedd newydd ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd yn bennaf.
Mae system Celution Cytori yn ddyfais feddygol sy'n tynnu a chasglu celloedd atgynhyrchiol o feinweoedd brasterog yn ystod triniaethau llawfeddygol. Maen nhw wedyn ar gael i'w hail-blannu yn yr un claf o fewn tua awr.
Yn ôl Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: "Dyma hwb sylweddol arall i sector gwyddorau bywyd Cymru ac mae'n ychwanegu at yr arbenigedd cynyddol sydd yng Nghymru ym maes therapïau celloedd a meddygaeth atgynhyrchiol.
"Unwaith bydd ReNeuron wedi symud i Bencoed, bydd Cymru yn gartref i ddau brif gwmni meddygaeth atgynhyrchiol byd-eang".