Sioe Gala i nodi pen-blwydd cwmni opera yn 25 oed
- Cyhoeddwyd

Mae un o ddynwaredwyr amlycaf Prydain wedi bod yn rhoi help llaw er mwyn i gwmni opera yn y canolbarth ddathlu ei ben-blwydd yn 25 oed.
Y comedïwr Rory Bremner sy'n gyfrifol am gyfieithu Carmen ar gyfer cynhyrchiad Opera Canolbarth Cymru sy'n cael ei gyfarwyddo gan Syr Jonathan Miller.
Fe ddatblygodd y cwmni yn wreiddiol o ysgol haf ym Meifod ac mae bellach wedi ei leoli yng Nghaersws.
Fe fydd y perfformiad cyntaf o Carmen yn Theatr Hafren, y Drenewydd, nos Fercher.
Mae Rory Bremner wedi ymuno â chast yr opera ar gyfer ymarferiadau cyn y prif berfformiad.
Fe wnaeth Mr Bremner, sydd wedi cyfieithu nifer o operâu, astudio Ffrangeg ac Almaen yn y brifysgol.
Fe wnaeth y cwmni lwyfannu ei berfformiad cyntaf yn y Drenewydd yn 1989, ac ers hynny mae'r cwmni wedi arbenigo mewn llwyfannu cynyrchiadau mewn lleoliadau llai ledled Cymru a Lloegr.
"Un o'n hamcanion yw i fynd ag opera i lefydd llai, yn bell o ganolfannau metropolitan, llefydd na fyddai yn gweld cynyrchiadau o'r fath fel arfer", meddai Nicholas Cleobury, cyfarwyddwr artistig y cwmni,
Bydd perfformiadau o Carmen yn Theatr Hafren nos Fercher, dydd Gwener a dydd Sadwrn cyn i'r sioe fyd ar daith.