Dim Gŵyl Sŵn eleni

  • Cyhoeddwyd
gwyl swn

Mae trefnwyr Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi na fydd yr ŵyl pedwar diwrnod yn cael ei chynnal eleni.

Yn hytrach bydd gŵyl unddydd o'r enw DimSŵn yn cymryd ei lle y flwyddyn hon.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar draws saith o leoliadau yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 18 Hydref, gyda 40 o fandiau yn cael cyfle i chwarae yn y digwyddiad aml-leoliad.

Yn 2013, dathlodd Gŵyl Sŵn ei seithfed blwyddyn ac enillodd y trefnwyr wobr am yr ŵyl fach gorau yng nghylchgrawn yr NME.

Yn ôl datganiad ar wefan yr ŵyl, mae hi bellach wedi "tyfu i faint ac arwyddocâd a oedd yn fwy na'r oeddynt wedi gobeithio amdano.

"Roeddem ar un adeg yn gallu trefnu'r digwyddiad gyda chriw bach o weithwyr llawrydd, gweithwyr rhan-amser a gwirfoddolwyr, ond wrth edrych ymlaen at 2014, rydym yn gwybod y byddwn angen tîm llawer mwy ar gyfer digwyddiad o'r maint hwn."

'Rhy fach a rhy fawr'

Yn ogystal, mae'r datganiad yn dweud bod cyd-sylfaenydd yr ŵyl, John Rostron, a oedd unwaith yn gallu rhoi llawer o'i amser yn rhad ac am ddim, bellach yn gweithio'n llawn amser.

"Roeddem yn rhy fawr i fod yn wyl fach, ac yn rhy fach i fod yn ŵyl mawr," meddai'r datganiad, "roedd yn edrych fel bod Sŵn mynd i ddod i ben.

"Derbyniodd John grant gan y Paul Hamlyn Foundation, oedd yn golygu fod John medru gadael ei swydd ym mis Awst, a gweithio llawn amser ar Sŵn, oedd yn golygu fod yr ŵyl yn gallu parhau.

"Dyma pryd sylweddolom ni fod DimSŵn yn gwneud synnwyr, a gyda chefnogaeth gan ein partneriaid, y bandiau a'i asiantaethau ni'n falch o allu cyhoeddi hyn heddiw.

"A gyda chefnogaeth Paul Hamlyn Foundation, ni'n edrych mlaen i weithio ar Sŵn 2015."