Carcharu arweinwyr gang am greu anhrefn mewn parc menter
- Cyhoeddwyd

Mae arweinwyr gang a ddinistriodd rannau o barc menter yn Arberth, Sir Benfro, wedi cael eu carcharu.
Plediodd Anthony Jones, Llewelyn Luce, Lisa Jones, a'i chariad James Lawson, yn euog i bum cyhuddiad o ladrad a thri o ymgeisio i ladrata.
Cafodd Jones ei garcharu am bedair blynedd a Luce am 21 mis.
Cafodd Lisa Jones a Lawson ddedfryd o ddwy flynedd o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd, a gorchymyn i gyflawni 240 awr o waith di-dâl yn y gymuned.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Anthony Jones a Luce am bedair awr wedi creu anhrefn a dwyn o fusnesau ar Barc Rushacre cyn gyrru oddi yno gyda mwy na £40,000 o arian parod a chyfarpar.
Fe lwyddon nhw i ddianc mewn Volvo gwerth £12,000 oedd wedi ei ddwyn.
Nid yw'r cerbyd na'r mwyafrif helaeth o'r eitemau gafodd eu dwyn wedi cael eu darganfod.
Dywedodd yr erlynydd Dean Puller fod y pâr wedi torri i mewn i uned cwmni glanhau Apple Blossom, garej Rushacre, uned Premier Stoves, uned Tradeframe Manufacturers ac uned y cwmni Silverstone Green Energy yn ogystal â cheisio torri i mewn i unedau busnesau eraill yn oriau mân 22 Rhagfyr y llynedd.
Anrhegion Nadolig
Roedden nhw wedi dwyn £1,650 o arian parod o uned Apple Blossom ac wedi achosi gwerth £5,000 o ddifrod.
Hefyd roedden nhw wedi dwyn anrhegion Nadolig ac wedi cymryd potel o win unigryw gafodd ei chanfod gan dditectifs ar ben cwpwrdd dillad yng nghartref Luce.
Yn uned Silverstone Green Energy gwnaeth y pâr "ddinistrio" hen gist arian a dwyn £1,200 o arian parod a gwerth £3,100 o offer.
Roedd Jones a Luce wedi dwyn arian parod, camerâu, stampiau ac eitemau gwerthfawr eraill o Premier Stoves a Tradeframe Manufacturers.
'Profiadol'
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas fod Anthony Jones, oedd yn euog 43 o weithiau yn y gorffennol, yn lleidr "profiadol a phroffesiynol" ac mai'r unig adeg nad oedd yn dwyn oedd pan oedd yn y carchar.
Er gwaethaf y ffaith ei fod yn byw yn Accrington, meddai, roedd ei droseddau blaenorol yn cynnwys rhai yn Sir Benfro.
Dywedodd fod yr hyn wnaeth y pedwar "yn lladrata ar raddfa fawr, gyda'u llygaid ar agor led y pen."
"Mae'r rhai sy'n chwarae â thân yn cael eu llosgi." meddai