Isaac Nash: Chwilio'n parhau

  • Cyhoeddwyd
Isaac Nash
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Isaac Nash, o ardal Huddersfield, ar wyliau gyda'i deulu pan aeth i drafferthion yn y môr.

Mae'r chwilio swyddogol am y bachgen 12 oed gafodd ysgubo allan i'r môr yn Aberffraw ddydd Gwener yn parhau.

Yn gynharach ddydd Mercher daeth cyhoeddiad gan Wylwyr y Glannau Caergybi bod yr ymdrechion swyddogol i'w ddarganfod yn cael eu dirwyn i ben, ond dywedodd yr heddlu'n fuan wedyn bod y chwilio'n parhau.

Cafodd Isaac Nash, 12, o ardal Huddersfield ei ysgubo allan i'r môr yn Aberffraw wrth chwarae ar y traeth.

Mae'r Bad Achub a hofrennydd yr Awyrlu Brenhinol wedi bod yn chwilio ers hynny ond dydyn nhw heb lwyddo i ddarganfod y bachgen.

Ddoe fe wnaeth mam Isaac gyhoeddi neges ar Facebook oedd yn diolch i'r rheiny oedd wedi bod yn chwilio am ei bachgen.

"Fel teulu rydym wedi bod yn ymweld ag Aberffraw ers iddo gael ei eni ac mi fyddan ni'n parhau i ymweld â'r man lle mae ei ysbryd," meddai'r neges. "Diolch."

Roedd tad y bachgen, Adam Nash, wedi llwyddo i achub brawd Isaac ond doedd ddim yn gallu gwneud dim i achub Isaac er gwaetha' ei ymdrechion.