Nôl i'r Ysgol: Y Cyflwynwyr
- Cyhoeddwyd
Gyda llawer o blant Cymru yn dechrau'r ysgol am y tro cyntaf neu'n dechrau yn yr ysgol fawr yr wythnos hon, bu rhai o gyflwynwyr BBC Radio Cymru yn rhannu eu hatgofion gyda Cymru Fyw:

Tommo: Ysgol Iau Aberteifi, 1973
"Nes i fwynhau fy niwrnod cynta'n yr ysgol yn fawr, ond roedd yr ail ddydd dipyn yn wahanol gan mod i, yn ôl fy rhieni, wedi pallu mynd... ro'n ni'n meddwl taw dim ond un diwrnod oedd rhaid fi fod 'na!
'Dwi'n cofio codi'n gynharach nag oedd angen yn gyffro i gyd a rhoi fy ngwisg ysgol newydd ymlaen... shorts coch, sane gwyn a sandals coch, crys melyn a bow tei 'lastig! Ond dwi'n eithaf siŵr mod i ddim yn edrych cystal ar ddiwedd yr wythnos gan taw chwarae ar iard yr ysgol gyda'n ffrindiau oedd un o'm hoff bethau i wneud yno!
Nes i ddim colli diwrnod o ysgol chwaith rhag ofn bod rhywun yn siarad amdanaf!"
Llŷr Griffiths-Davies, Tywydd: Ysgol Dyffryn Teifi, 1992
"Gan mai fi oedd yr unig ddisgybl o'm ysgol gynradd i fynd i Ysgol Dyffryn Teifi, ro'n i braidd yn nerfus ac yn fwy gofalus nag arfer wrth baratoi.
Mi ddarllenais y llawlyfr ro'n i wedi'i gael ar ddiwrnod agored yr ysgol o glawr i glawr, gan wneud yn siwr fod gen i bopeth roedd ei angen. Ro'dd gen i'r wisg swyddogol (trwser lliw golosg/siarcol, nid du; siwmper gyda bathodyn yr ysgol wedi'i frodio arni; crys llwyd o liw a gwneuthuriad penodol, a thei wrth gwrs!), a bag digon mawr i alw 'chi' arno.
Er gwaetha'r nerfau aeth y bore'n weddol, ond dros amser cinio aeth rhyw ddau beth bach o chwith…
Yn gynta wnath rhyw fachgen direidus ryddhau caead y pot halen, felly pan es i ati i roi ychydig o halen ar fy nghinio, ddoth y caead yn rhydd gan lenwi fy mhlat â chynnwys y pot. Diflas iawn. Yn enwedig a finne'n un sy'n hoff o 'mwyd!
Wedyn, ar ôl cinio, rodd rhaid ffeindio fy mag mawr, newydd, a mynd i'r ystafell gofrestru eto. Yna dyma lais y Prifathro'n taranu dros yr uchelseiynydd, yn gofyn i fi fynd i'w ystafell, gan ddod â 'mag hefyd.
Galla' i ddim esbonio mewn geirie mor nerfus o'n i'n cerdded lan drwy dir yr ysgol i'w swyddfa. Beth oedd wedi digwydd? Oeddwn i am gael fy nhaflu mas o'r ysgol ar fy niwrnod cyntaf? Odd rhyw un yn meddwl mai fi agorodd gaead y pot halen? Rodd un peth yn gysur, o leia ro'dd gen i'r wisg swyddogol!
Wrth gyrraedd dyma weld disgybl arall yn y swyddfa, a bag tebyg i'm un i ar y bwrdd. Diolch byth - dim ond wedi mynd â bag ein gilydd oeddwn ni'n dau. Wedi eu cyfnewid, cafodd y ddau ohonom fynd ati i gario mlaen da'n diwrnod. Ond anghofia i fyth mo'r ofn hwnnw wrth gnocio ar ddrws y swyddfa. Fu'n rhaid i mi fynd nôl yno yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol? Fydde hynny'n dweud gormod!"
Guto Rhun, C2: Ysgol Glantwymyn, 1995
"Y peth dwi'n cofio mwya am ddechrau ysgol oedd y tristwch o adael fy ffrindiau yn yrysgol feithrin, mi wnes i grio lot! Dwi'n dal i gofio'r foment nes i ddarganfod y chicken pie a'r arctic roll yng nghantîn yr ysgol... dyddia da! Dwi'n cofio cael fy nghloi mewn cwpwrdd glanhau a'r handlen yn cwympo i ffwrdd a'r athrawes yn gorfod cal screwdriver i dynnu'r drws i ffwrdd... yn amlwg fy ffrindiau wnaeth fy nghloi i mewn, nid yr athrawes!"
Hywel Gwynfryn: Ysgol 'British' Llangefni, 1948
"Dwi'n cofio ar ddechrau fy nghyfnod yn yr ysgol yn 'sgwennu ar lechen gyda phensil lechen a'r sŵn gwichian yn dod oddi arni. Dwi'n cofio Mrs Gibson, a oedd yn glamp o ddynes fawr, yn dod allan o'r gegin gyda phadell fawr o gaws, a 'r caws wedi ei dorri'n flociau, a dyna ni i gyd yn rhuthro fel reffiwjîs i'w bwyta. Yr hwyl oedd trio cael tamaid arall o'r caws heb i Mrs Gibson sylwi fy mod i eisoes wedi cael fy siâr!
Dwi'n cofio poteli bach o lefrith yn cael eu gosod yn y grât o flaen tanllwyth o dân agored YN y dosbarth! Be fydda'r bois iechyd a diogelwch yn ei dd'eud dyddia' yma?!
Yr athro dosbarth, Stephen Edwards, wnaeth fy nghyflwyno i'r gynghanedd, wedi iddo sgwennu englyn yn fy llyfr llofnodion cyn i mi adael am Ysgol Uwchradd Llangefni, a dwi dal i'w gofio heddiw:
Y Gwanwyn
Swyn hudol, sain ehedydd - a glywn
Yn glir ar fore ddydd
Daear fad, yn deor fydd
A llwyni'n dai llawenydd.
Eleri Sion, Camp Lawn: Ysgol Uwchradd Aberaeron, 1982
"Sai'n cofio lot! Yr unig beth 'wi'n cofio yw fy ngwers goginio gynta' lle bu bron i mi a'n ffrind Tess roi'r ysgol ar dân pan losgon ni'n campwaith cynta ni - toasted sandwich! Dath y ddwy o ni mas ohoni'n well na'r toastie!"
Owain Wyn Evans, Tywydd: Ysgol Gynradd Rhydaman, 1988
"Er oedd e sbel yn ôl nawr, dwi'n cofio fy niwrnod cynta yn yr ysgol yn glir! 'On i mor nerfus - ond oedd pethe bach yn haws imi achos oedd mam yn athrawes yn yr ysgol gynradd! Fi'n cofio'r tei bach glas a'r siwmper glas tywyll, a Miss Evans fy athrawes gynta' ym mlwyddyn 3. Roedd hi syth allan o'r Coleg. Cyn hynny, Mrs Adams yr athrawes babanod oedd yn dishgwl ar ôl fi, y ddwy yn athrawon ffab! Aeth yr un grŵp lan o'r ysgol babanod i'r ysgol Iau, felly oedd hwnna wedi gwneud y diwrnod cynta bach yn haws - o leia o'n i'n nabod pawb!"
Pob hwyl i chi blant sy'n dechrau yn yr ysgol fach neu yn mynd i'r ysgol fawr am y tro cyntaf. Mwynhewch, a chofiwch byddwch yn ofalus efo'r pot halen, cadwch yn glir o gypyrddau a pheidiwch â rhoi'r gegin ar dân!