Cymru i chwarae ar gae artiffisial
- Published
Fe fydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016 ar gae artiffisial yn Andorra ddydd Mawrth.
Roedd profion cyntaf ddydd Iau diwethaf ar y cae artiffisial 3G yn dweud fod y bêl yn rowlio yn rhy gyflym.
Ond ddydd Mercher dywedodd UEFA eu bod nawr yn fodlon gyda chyflwr y maes.
Mae'r stadiwm yn y brifddinas Andorra le Velle yn dal 3,300.
Ar un adeg roedd sôn y byddai'n rhaid symud y gêm i Sbaen.
Dywedodd rheolwr Cymru Chris Coleman y byddai'n well ganddo gynnal y gêm ar laswellt, gan "nad ydym wedi arfer chwarae ar gae artiffisial".
Ond ychwanegodd y byddai ei chwaraewyr yn "fodlon chwarae ar faes parcio pe bai'n rhaid".
Mae gwledydd Ewrop wedi eu rhannu mewn naw grŵp - gyda 23 yn ceisio am le yn Ffrainc yn 2016.
Bydd y ddau dîm sy'n gorffen yn uchaf ym mhob grŵp yn ennill yr hawl i gystadlu yn y rowndiau terfynol yn Ffrainc.
Felly hefyd y tîm sy'n gorffen gyda'r cyfanswm o bwyntiau yn y trydydd safle.
Bydd y timau a orffennodd yn drydydd yn yr wyth grŵp arall yn wynebu ei gilydd mewn gemau ail gyfle.
Straeon perthnasol
- Published
- 28 Awst 2014