Pibell nwy Aberystwyth: anghyfleustra cyn y Nadolig
- Cyhoeddwyd

Mae trigolion Aberystwyth wedi cael eu rhybuddio bydd gwaith adnewyddu pibellau nwy yng nghanol y dref yn mynd i achosi anghyfleustra am sawl wythnos yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.
Ddydd Iau mae cyfle i drigolion Aberystwyth weld cynlluniau ar gyfer gwaith newid prif bibell nwy y dref.
Mae disgwyl i'r gwaith, fydd yn cymryd oddeutu 14 wythnos, orffen cyn y Nadolig.
Fe fydd 220 medr o bibell newydd yn cael ei gosod, gan effeithio ar rannau Heol y Bont a'r Stryd Fawr.
Yn ogystal fe fydd y gwaith yn effeithio ar ddolenni'r bibell ar gyffyrdd a ffyrdd cyfagos.
Mae'r gwaith yn dechrau ar 8 Medi, ac fe fydd rhai ffyrdd ynghau am gyfnod o 10 Medi.
Brynhawn dydd Iau yng Ngwesty'r Marine fe fydd aelodau tîm y prosiect ar gael i roi gwybodaeth i drigolion.
Derbyn llythyr
Fe fydd y gwaith yn effeithio ar gyflenwad nwy rhai cartrefi - a bydd y bobl hynny yn derbyn llythyr.
Fe ddywedodd Rheolwr Prosiect y gwaith Andrew Dransfiel: "Ry'n ni wedi ceisio cynllunio'r fenter er mwyn lleihau'r effaith mewn lle anodd iawn i weithio ynddo.
"Ry'n ni wedi gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol i drefnu rheoli traffig yn ogystal â thrafod ein cynlluniau i wneud yn siwr fod lleisiau'r bobl leol yn cael eu hystyried."
Fe fydd y gwaith mewn pedair rhan a bydd ffyrdd gwahanol ynghau yn ystod y pedwar cyfnod hwnnw.
Mae'r gwaith yn rhan o gynllun cwmni ynni Wales & West i osod pibelli nwy newydd.
Mae pibelli metel sydd o fewn 30 medr i adeiladau yn cael eu newid am rai plastig fydd yn para am 80 mlynedd.