Ail gyfle Malcolm Allen

  • Cyhoeddwyd

Mi chwaraeodd Malcolm Allen i rai o glybiau pêl-droed mwyaf Lloegr a chwarae dros Gymru ond roedd yna gysgod mawr dros fywyd yr ymosodwr dawnus o Ddeiniolen - alcohol.

Mewn rhaglen ddogfen Malcolm Allen: Cyfle Arall, ar S4C nos Iau Medi 4, bydd Malcolm, sydd bellach yn aelod o dîm sylwebu Sgorio, yn trafod ei frwydr yn erbyn y ddiod.

Cafodd BBC Cymru Fyw sgwrs efo Malcolm am ei benderfyniad i ddweud ei stori yn gyhoeddus ac am ddyfodol pêl-droed yng Nghymru.

Oedd hi'n anodd penderfynu gwneud y rhaglen?

"Doedd o ddim yn benderfyniad nes i dros nos. 'Nath o gymryd dipyn o flynyddoedd i gytuno i 'neud rhaglen o'r fath oherwydd odd o'n mynd â fi nôl i gyfnod roeddwn i 'di roi mewn bocs yng nghefn fy meddwl.

"Felly roedd o'n anodd yn bendant, ac o'n i'n gorfod meddwl am deimladau pawb oedd yn mynd i gyfrannu i'r rhaglen hefyd, a mynd drwyddo fo eto efo fi - o'n i'n meddwl bod unwaith yn ddigon iddyn nhw, ond mi roedden nhw, chwarae teg, yn ddigon bodlon i ddweud eu dweud yn y rhaglen hefyd ac oedd hynny'n bwysig.

"Ond y stori o'r rhaglen ydi bod 'na help i bobl sy'n diodda' allan yna, bo' 'na ddewis arall, a does ddim rhaid iddyn nhw feddwl bod 'na ddim ffordd allan."

Ydi'r rhaglen wedi dy helpu i wynebu'r dyfodol?

"Mae 'di bod yn gyfnod therapiwtig ers saith mlynedd rŵan, oherwydd y ffordd ddos i allan o'r cyfnod tywyll yna lle o'n i ddim yn gwybod lle i chwilio am help, a hefyd y ffaith i mi gael y dewrder i ofyn am help ar ôl y blynyddoedd pan o'n i'n yfed.

"Binge drinker o'n i, pan o'n i'n dechrau yfed o'n i methu stopio, ac wedyn roeddwn i'n ffeindio'n hun mewn trafferthion ac mewn cell llawer gwaith pan o'n i'n yfed. Felly roedd rhaid imi ofyn am help, a phryd nes i ofyn am yr help yna ges i gryfder o rywle i ddweud gwir.

"Roeddwn i'n lwcus am bod yna ddyn oedd yn ymwneud efo chwaraeon wedi cael problemau tebyg i fi, ac fe gyhoeddodd lyfr am salwch yr ymennydd. Nes i fyw gyda fo am ychydig fisoedd er mwyn dod i arfer â meddwl yn wahanol, fel fy mod yn gallu llenwi fy mywyd gyda phethau hapus yn hytrach nag alcohol.

"Doedd gen i ddim brys am ddiod bob dydd, doeddwn i ddim yn rhoi fodca ar Rice Krispies, ond alla i ddim gwadu'r ffaith fod gen i broblem yfad, wrth gwrs fod gen i. Roedd rhaid gwynebu hynny, neu efallai byswn i ddim yma heddiw."

Disgrifiad o’r llun,
Malcolm yn chwarae i Watford (ar y chwith) a Norwich City (dde)

Wyt ti'n hapus rŵan? Mewn lle da?

"Yndw tad, dwi 'di cael cyfle arall - dyna 'di enw'r rhaglen, ac mae amser a chariad yn rhad ac am ddim, a dwi 'di cael digonedd o hynny gan y bobl o fy nghwmpas i, gan fy nheulu a Rhian fy mhartner.

"Mae Rhian di helpu gymaint dros y pum mlynedd diwethaf, a 'da ni'n mynd o nerth i nerth. Mae ddoe yn hanes a dwi'n byw am heddiw, ac os 'da ni ddigon hapus heddiw 'nawn ni gymryd fory fel mae o'n dod."

Mae enwau cyfarwydd fel Kevin Keegan, Mick McCarthy a Dave Brailsford yn cyfrannu i'r rhaglen. Oedd hi'n dda i'w gweld nhw eto?

"Mae'n grêt bo' nhw di cyfrannu i'r rhaglen, dwi'n falch bo' nhw wedi, oherwydd fe wnaethon nhw weld y diwrnodau tywyll. Dwi'n falch bo nhw'n siarad am yr amseroedd da hefyd, oherwydd nes i erioed eu gadael i lawr ar y cae, ond roeddwn i'n gwybod yn fy hun mod i ddim yn rhoi 100% am fod y ddiod wedi cymryd drosodd ar adegau yn ystod fy nghyfnod yn chwarae.

"Oedd o'n neis iawn gweld nhw i gyd, yn enwedig Kevin Keegan oherwydd oedd o'n mynd drwy gyfnod anodd pan o'n i'n dod at ddiwedd fy ngyrfa yn Newcastle lle oedd o 'di gweld y broblem.

Disgrifiad o’r llun,
Malcolm yn ei grys Cymru

"Yr adeg yna o'n i'n gadael i bethau eraill fy nylanwadu, lle dyddiau 'ma dwi ond yn gorfod meddwl am emosiynau fi'n hun - os dwi'n rheoli hyn mi wneith bob dim arall ddisgyn i'w lle."

Beth oedd uchafbwyntiau dy yrfa?

"Fy mreuddwyd i yn fachgen bach oedd chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr, neu'r safon uchaf y gallwn i, ac wrth gwrs chwarae i Gymru. Doedd 'na ddim gwell teimlad o gwbl 'na rhoi'r crys coch ymlaen.

"Y ddau brofiad yna oedd yr uchafbwyntiau ar y cae, ond yn uwch na rheini oedd dod allan o'r twll o'n i ynddo."

Wyt ti'n obeithiol am ddyfodol pêl-droed Cymru?

"Does 'na ddim cwestiwn mod i'n obeithiol, oherwydd rydyn ni wedi bod yn dîm efo unigolion arbennig fel Gareth Bale ers rhai blynyddoedd rŵan.

"Efallai bod ni'n mynd i'r ymgyrch yma heb ymosodwr dibynadwy i sgorio wyth neu ddeg gôl i fynd â ni i'r pencampwriaethau, ond mae gennym amddiffynwyr sy'n chwarae'n gyson yn Uwchgynghrair Lloegr, a hefyd saith neu wyth chwaraewr o safon yng nghanol cae. Y pwynt pwysig yw eu cael nhw i gyd yn iach ac ar y cae'r un amser. Os allen ni wneud hynny, yn sicr mae gennym siawns dda iawn.

"Mae'r rheolau wedi newid gyda'r ddau gyntaf o bob grŵp yn mynd drwodd a'r trydydd yn mynd i'r gemau ail gyfle, a heblaw am Wlad Belg gallen ni ddim wedi dewis gwell grŵp. Dylai Chris Coleman fod yn hyderus, ac mi fyswn i'n hoffi ei weld o'n dod allan a gwneud datganiad ein bod ni am gyrraedd Pencampwriaethau Ewro 2016."

Disgrifiad o’r llun,
Malcolm yr hyfforddwr - Yn ôl yn ei filltir sgwâr i geisio rhoi siâp ar dîm Llanberis yn y gyfres Clwb Pêl-droed Malcolm Allen

Beth yw dy gynlluniau di ar gyfer y dyfodol?

"Bod yn hapus 'di'r peth pwysicaf. Mae cariad yn rhywbeth cryf yn fy mywyd i rŵan, sydd wedi bod yn help i mi wella. Dwi ddim yn ista'n gyfforddus yn meddwl mod i ddim ond yn mynd i siarad am bêl-droed.

"Dwi'n bositif, dwi'n lwcus mod i'n gallu gweithio i wahanol gwmnïau yn siarad am y gêm, ond dwi wedi bod yn gymwys i hyfforddi rŵan ers tua saith mlynedd a dwi'n meddwl galla i fod yn ddylanwadol gyda hynny. Pwy â ŵyr, galla i fod yn hyfforddi yn llawn amser ac efallai bod yn rheolwr rhyw ddydd.

Disgrifiad o’r llun,
Malcolm yn yr Orsedd - Y pêl-droediwr yn cael ei anrhydeddu yn Eisteddfod Sir Ddinbych

"Dwi 'di datblygu chwaraewyr ifanc i gyrraedd timau cyntaf Stevenage a Tottenham, ac efallai mai'r cam nesaf yw bod yn is-reolwr neu hyfforddwr tîm cyntaf. Mewn amser y gobaith ydi bod yn rheolwr tîm cyntaf rhywle, oherwydd dwi'n benderfynol o wella a dysgu, ac wrth gwrs dwi'n edrych ymlaen at y dyfodol - doeddwn i ddim yn medru deud hynna ychydig flynyddoedd yn ôl."