Dyn gafodd ei drywanu wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Michael Lee Emmett

Mae un o'r dynion gafodd ei drywanu mewn ymosodiad yn y Coed Duon ar Awst 1 wedi marw o'i anafiadau.

Roedd Michael Lee Emmett yn 31 ac yn byw yn y Coed Duon - bu farw ddydd Mawrth, Medi 2.

Mae partner Mr Emmet wedi rhoi teyrnged iddo, sy'n dweud: "Roedd Michaelee yn ŵr bonheddig oedd yn rhoi eraill gyntaf bob tro.

"Roedd yn dad ffantastig i'n efeilliaid ac roedden ni'n gwybod y byddai wedi dotio ar ei ferch fach.

"Roedd yn fwy na dim ond partner i mi a thad i'n plant, ef oedd fy enaid hoff cytûn, fy ffrind gorau a chafodd ei gymryd oddi arnon ni yn rhy fuan mewn ffordd greulon.

"Chaiff e fyth ei anghofio ac mi fyddan ni'n ei garu am byth."

Fe gafodd dyn arall 44 oed anafiadau yn yr un ymosodiad.

Mae e bellach wedi ei ryddhau ar ôl derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Cafodd bachgen 16 o'r un ardal ei arestio yn dilyn y digwyddiad a'i gyhuddo o ddau achos o glwyfo, o dorri gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol ac o ymosod ar swyddog heddlu.

Dywedodd Heddlu Gwent fod y llanc wedi cael ei arestio yn wreiddiol ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn y digwyddiad am 23:15 ar Ffordd Bryn ac Apollo Way.