Busnes fel arfer i Gyngor Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae prif weithredwr Cyngor Wrecsam yn dweud y bydd yr awdurdod yn parhau i weithredu fel arfer, er bod 10 o gynghorwyr wedi gadael eu plaid.
Yn ôl Helen Paterson mae'n rhaid i staff y cyngor barhau i weithio dros bobl yr ardal er gwaetha'r "ansicrwydd gwleidyddol".
Mewn llythyr at staff y cyngor, dywedodd Ms Paterson bod arweinydd, dirprwy arweinydd ac aelodau o fwrdd gweithredol y cyngor yn parhau i fod yn eu swyddi nes i gyfarfod llawn o'r cyngor benderfynu fel arall.
Mae'r cyfarfod nesaf o'r fath yn digwydd ar 24 Medi.
Yn ei llythyr at y staff, mae Ms Paterson yn dweud: "Yn ystod cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol mae'n bwysig bod yr holl staff yn cofio ein bod yn gweithio er budd y cyngor cyfan a holl bobl Wrecsam.
"Mi fydd busnes dydd-i-ddydd yn parhau fel arfer gyda'r ffocws ar wneud y gorau ar gyfer ein cwsmeriaid."
'Ymyrryd'
Llafur oedd y blaid fwyaf yn y cyngor gyda 23 o aelodau, a hi oedd yn arwain ar y cyd gyda grŵp o gynghorwyr annibynnol.
Ond ddydd Mercher fe wnaeth 10 aelod Llafur, gan gynnwys arweinydd y cyngor, Neil Rogers, adael y blaid gan gwyno bod Llafur Cymru yn "ymyrryd" gyda'u gwaith.
Dywedodd Mr Rogers wrth BBC Cymru nad oedd staff o bencadlys Llafur yng Nghaerdydd yn rhan o'r ymyrraeth.
Ond dywedodd fod gan rhai swyddogion cyswllt "agenda personol eu hunain" yn hytrach na'u bod yn meddwl am "beth sydd orau i bobl Wrecsam".
"Dwi'n teimlo fod angen i ni fod yn unedig fel plaid pan rydan ni'n mynd allan yna," meddai Mr Rogers, "ond rwy'n teimlo dros y misoedd diwethaf nad ydan ni wedi bod."
Mae Llafur wedi dweud bod yr ymddiswyddiadau yn "siomedig" gan ddweud y bydd trafodaethau'n parhau dros y dyddiau nesaf.
'Amseru gwael'
Y cynghorwyr heblaw Mr Rogers wnaeth adael eu swyddi oedd Michael Williams, David Griffiths, Bernie McCann, David Bithell, Geoff Lowe, Malcolm Taylor, Barbara Roxburgh, Steve Wilson ac Andy Williams.
Dirprwy arweinydd y cyngor yw'r cynghorydd Democrataidd annibynnol Mark Pritchard.
Dywedodd: "Allai'r ymddiswyddiadau yma heb ddod ar amser gwaeth i'r cyngor, wrth iddo geisio cael trefn ar y gyllideb ag ymdopi â'r toriadau ariannol a gwasanaethau'n cael eu torri."
Mae'r helbul eisoes wedi golygu bod cyfarfod i benderfynu tynged canolfan hamdden Plas Madoc, oedd fod i gael ei gynnal yr wythnos nesaf, wedi gorfod cael ei ohirio.
Mi fydd yn rhaid i'r grŵp cymunedol sy'n ceisio sicrhau hawl i'w redeg ddisgwyl tan fis Hydref am y penderfyniad.
Straeon perthnasol
- 3 Medi 2014
- 27 Ebrill 2014