Pryder dros ofynion mynediad prifysgolion

Aber
Image caption Roedd Prifysgol Aberystwyth yn un wnaeth ostwng y gofynion mynediad ar gyfer 2011/12, ynghyd â Chaerdydd, Abertawe a Bangor

Mae ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dangos fod myfyrwyr yn gallu sicrhau lle mewn prifysgolion Cymreig gyda graddau is nag yng ngweddill y DU ar gyfartaledd.

Mae'r bwlch yma wedi bodoli ers tro ac mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos fod y gofynion ar ran pwyntiau Ucas wedi aros yn ei unfan yng Nghymru 2011/12.

Mae hyn er gwaetha'r ffaith bod y gofynion ar gyfer cael lle mewn prifysgolion yng ngweddill y DU wedi cynyddu.

Yn ôl y Ceidwadwyr mae hyn yn dangos fod Cymru yn llusgo'n bellach tu ôl i weddill Prydain, ond mae Llywodraeth Cymru'n dadlau eu bod yn cymryd camau i gadw disgyblion disgleiria'r wlad yng Nghymru.

Aros yn yr unfan

Mae'r gwahaniaeth rhwng y pwyntiau sydd eu hangen i gael lle mewn prifysgol yng Nghymru o'i gymharu â gweddill y DU bellach yn 27 o bwyntiau Ucas.

Mae gradd A* mewn Lefel A werth 140 o bwyntiau, cewch 120 am A, 100 am B ac yn y blaen. Mae'r Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru yn gyfystyr a gradd A.

Roedd y sgôr oedd ei angen i fynd i brifysgol yng Nghymru ar gyfartaledd wedi bod yn codi yn y pum mlynedd hyd at 2011/12, yn ôl ystadegau diweddaraf yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.

Ond fe arhosodd y gofynion am y flwyddyn academaidd honno yr un fath.

'Polisi addysg ar fai'

Image caption Mae nifer o fyfyrwyr o Gymru yn mynd i brifysgol Lerpwl a rhai eraill sy'n agos at y ffin, gan dderbyn cymorth i dalu eu ffioedd gan Lywodraeth Cymru

Yn ôl llefarydd addysg y Ceidwadwyr, polisi addysg Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol.

Dywedodd Angela Burns: "Mae'r ffigyrau yma i'w gweld yn dangos Cymru yn disgyn ymhellach tu ol i weddill y DU o ran cyrhaeddiad Lefel A myfyrwyr newydd ym mhrifysgolion Cymru.

"Os yw myfyrwyr yn dechrau astudio ym mhrifysgolion Cymru gyda chymwysterau is, mae'n debygol y gallant raddio gyda dosbarthiadau gradd is, a thrwy hynny, effeithio ar y safonau uchel sydd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

"Mae'n rhaid i weinidogion Llafur roi terfyn ar y cymhorthdal ffioedd myfyrwyr drud, sy'n mynd a miliynau o bunnoedd i brifysgolion Saesnig, ac ail-fuddsoddi'r arian mewn gwella potensial dysgu ac ymchwilio prifysgolion Cymreig."

Cyfeirio oedd Ms Burns at bolisi'r llywodraeth o dalu unrhyw ffioedd dros £3,500 i fyfyrwyr o Gymru, lle bynnag maen nhw'n dewis astudio o fewn y DU.

Fe ddywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, y flwyddyn ddiwethaf y gallai'r arian sy'n cael ei dalu i brifysgolion Lloegr ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio yno gael ei wario ar wella gwaith ymchwil a chefnogaeth i fyfyrwyr yng Nghymru.

Mae'r llywodraeth yn cynnal adolygiad o sefydliadau addysg uwch ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddi adrodd yn ôl yn 2016.

Effaith ar enw da

Image caption Mae Mr Thomas yn pryderu y gall patrwm blynyddol ddatblygu

Dyw Simon Thomas o Blaid Cymru ddim yn credu bod achos dros banig eto, ond mae'n poeni am yr effaith fyddai dirywiad blynyddoedd yn y gofynion pwyntiau yn ei gael.

"Dw i'n credu bod lle i boeni yn y tymor hir - fyddwn i ddim yn poeni o flwyddyn i flwyddyn," meddai Mr Thomas.

"Ond os yw hwn yn dueddiad sy'n golygu bod wastad rhyw fwlch rhwng cyfartaledd prifysgolion Cymru a'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr dros amser, gyda threigl amser fe fydd yna ryw fath o enw am rai prifysgolion yn y cyd-destun Cymraeg am fod yn eilradd, o bosib."

Mae Llywodraeth Cymru'n tynnu sylw at y ffaith bod gofynion uchel iawn prifysgolion fel Rhydychen yn cael effaith ar yr ystadegau.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Yn ein datganiad polisi addysg uwch rydym wedi gosod gweledigaeth glir ar gyfer addysg uwch yng Nghymru wrth i ni nesáu at 2020.

"Rhan allweddol o'r ddogfen honno yw gweithio gyda phrifysgolion i annog myfyrwyr o'r radd flaenaf i aros yng Nghymru i astudio gan barhau i ddenu'r goraf a'r disgleiriaf o weddill y byd."

Dim ond un o'r meini prawf

Wrth ymateb i'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd llefarydd ar ran Addysg Uwch Cymru:

"Mae'r ffaith bod ffigyrau gofynion mynediad Cymru wedi aros yn gyson gyda ffigyrau'r llynedd yn adlewyrchu system ble mae gofynion mynediad yn ddim ond un o nifer o feini prawf ar gyfer mynediad mae prifysgolion yn eu defnyddio wrth ystyried ceisiadau ar gyfer y brifysgol.

"Mae ystod o ddata cyd-destunol hefyd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod cyrhaeddiad yn cael ei roi yn ei gyd-destun, enghraifft berffaith o hyn fyddai myfyriwr aeddfed sydd, efallai, heb fynd lawr y llwybr traddodiadol o wneud Lefel A cyn penderfynu mynd i'r brifysgol.

"Rydym yn credu bod y dull yma yn parhau i ddarganfod yr ymgeiswyr gorau a disgleiriaf tra hefyd yn ceisio ehangu mynediad i'r brifysgol a hynny waeth be fo amgylchiadau'r ymgeisydd.

"Bwriad ehangu mynediad i'r brifysgol ydi cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl o ystod o gefndiroedd teuluol ac addysgiadol i allu cael mynediad i addysg uwch ac mae'n pwysleisio ymrwymiad prifysgolion yng Nghymru i sicrhau fod pawb sydd gyda'r penderfyniad, dymuniad a'r gallu i fynd i'r brifysgol yn gallu gwneud hynny. "

Straeon perthnasol