BBC Cymru Fyw

Gorymdaith wrth-Nato yng Nghasnewydd

Published
image captionMae'r protestwyr wedi bod yn llafarganu wrth orymdeithio

Mae tua 500 o ymgyrchwyr, sy'n protestio yn erbyn Nato, yn gorymdeithio drwy Gasnewydd.

Fe dreuliodd tua 100 y noson mewn gwersyll heddwch ym Mharc Tredegar neithiwr.

Bychan yw nifer y protestwyr gan fod disgwyl y byddai miloedd yn cyrraedd.

Mae'n nhw'n gorymdeithio o'r senotaff yng nghanol y ddinas tuag at gylchfan y Coldra ger gwesty'r Celtic Manor, lleoliad yr uwchgynhadledd.

Nos Iau bydd gorymdaith yng Nghaerdydd cyn i'r arweinwyr giniawa yn y castell.

image caption"Heddwch!" yw cri'r protestwyr yng Nghasnewydd
image captionYr heddlu'n ymbaratoi ar gyfer y brotest
image copyrightAFP/Getty
image captionYr orymdaith drwy Gasnewydd
image copyrightGetty Images
image captionY protestwyr ar strydoedd Casnewydd

Straeon perthnasol

  • 'Bore da': Obama'n ymweld ag ysgol yng Nghasnewydd