Protestio yng Nghaerdydd wrth i arweinwyr Nato gyrraedd

Arweinwyr Image copyright Wales News Service

Mae arweinwyr a chynrychiolwyr wedi cyrraedd Caerdydd ar ôl diwrnod cyntaf y trafod yn Uwchgynhadledd Nato yng Nghasnewydd.

Cafodd pedwar o bobl eu harestio wrth i tua 250 o bobl gynnal protest wrth y castell yn y brifddinas.

Yn gynharach, fe wnaeth y Tywysog Charles gynnal digwyddiad i groesawu'r ymwelwyr yng ngwesty'r Celtic Manor. Mae'r tywysog eisoes wedi ymweld â llong ryfel HMS Duncan ym Mae Caerdydd.

Castell Caerdydd oedd y canolbwynt nos Iau wrth i'r arweinwyr byd fwynhau swper wedi ei baratoi gan y Cymro, Stephen Terry.

Fe wnaeth y Gweinidogion Tramor giniawa yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gerllaw, a'r Gweinidogion Amddiffyn ar yr HMS Duncan yn y bae.

Image copyright Reuters
Image caption Fe wnaeth y Tywysog Charles gynnal digwyddiad arbennig yng Nghasnewydd nos Iau

Ers 1990

Dyma'r tro cyntaf i'r uwchgynhadledd gael ei chynnal yn y DU ers 1990.

Wrth agor y sesiwn gyntaf, fe ddiolchodd Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, Anders Fogh Rasmussen i Gymru am y lletygarwch, gan ddweud "mae'r byd i gyd wedi dod i Gymru".

Yr Wcráin, Afghanistan a dyfodol Nato oedd ar frig yr agenda.

Roedd arweinwyr yn feirniadol o Rwsia am ddylanwadu'n "ansefydlog" ar yr argyfwng yn nwyrain Wcráin.

Ddydd Gwener, fe fydd y trafod swyddogol yn parhau, er y bydd cryn sgwrsio wrth giniawa yn y brifddinas heno.

Image caption Roedd cyfle i Barack Obama ymuno a gwers yn Ysgol Mount Pleasant fore Iau

Ymweld ag ysgol

Fore Iau, fe ymwelodd yr Arlywydd Obama a David Cameron ag Ysgol Gynradd Mount Pleasant yn ardal Casnewydd.

Fe ddechreuodd y dorf ymgasglu tu allan toc cyn chwech, gan obeithio cael cipolwg o'r arlywydd.

Roedd yn rhaid i ddisgyblion fynd drwy beiriant synhwyro metel wrth iddyn nhw gyrraedd.

Wrth i gar yr arlywydd gyrraedd toc cyn 10, roedd 'na gannoedd wedi ymgynnull, gan chwifio baneri a gweiddi eu croeso.

Ond nid oedd rhai mor groesawgar i aelodau Nato yng Nghymru, wrth i 500 o ymgyrchwyr orymdeithio drwy Gasnewydd.

Fe dreuliodd tua 100 o bobl y noson mewn gwersyll heddwch ym Mharc Tredegar nos Fercher hefyd, ond bychan oedd nifer y protestwyr o'i gymharu a'r disgwyl.

Roedden nhw'n gorymdeithio o'r senotaff yng nghanol y ddinas tuag at gylchfan y Coldra ger gwesty'r Celtic Manor, lleoliad yr uwchgynhadledd.

Image copyright AFP/Getty
Image caption Yr orymdaith drwy Gasnewydd

Daeth cannoedd o bobl i ymgynnull y tu allan i Gastell Caerdydd nos Iau hefyd, yn disgwyl i'r arweinwyr gyrraedd ar gyfer y wledd.

Roedd hefyd tua 350 o brotestwyr yn gweiddi a chanu, wrth iddyn nhw orymdeithio i lawr Heol y Frenhines yng nghanol y ddinas.

Cafodd tri o brotestwyr eu harestio yn ôl yr heddlu, ond roedd y rhan fwyaf o'r digwyddiad yn heddychlon.

Image copyright AFP
Image caption Dywedodd yr heddlu bod nifer o bobl wedi eu harestio yn y brotest yng Nghaerdydd
Image caption Daeth tua 250 o bobl i brotestio wrth gastell Caerdydd nos Iau

Straeon perthnasol