Cytundebau canolog yn 'beryglus' medd Gareth Thomas
- Cyhoeddwyd

Mae cynnig cytundebau deuol i chwaraewyr rygbi Cymru yn gamgymeriad, yn ôl cyn gapten Cymru a'r Llewod, Gareth Thomas.
Bydd rhai o sêr y tîm yn cael cynnig o gytundebau canolog ar ôl i Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau ddod i gytundeb newydd.
Mae'r cytundeb hwnnw, sy'n para tan 2020, yn golygu y bydd o leiaf chwe chwaraewr rhyngwladol ar gytundebau canolog.
Ond yn ôl Thomas, mae dewis unigolion ar gyfer y cytundebau yn syniad peryglus.
'Egwyddor'
"Rydych chi'n cymryd gêm tîm a dewis unigolion sydd yn beth peryglus iawn i'w wneud," meddai.
"Yn bersonol, dydw i ddim yn meddwl gall weithio.
"Mae'n grêt i'r chwaraewyr hynny [sy'n cael cytundebau], ond beth mae hynny'n ei ddweud wrth chwaraewyr eraill a'r dalent newydd sy'n datblygu?
"Os oeddwn i yn un o'r rhai gafodd eu gadael allan... ac roedd rhywun yn cynnig rhywbeth arall i fi ar draws y bont [Hafren], buaswn i'n ei gymryd fel mater o egwyddor."
Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl pan rydych chi'n rhan o dîm ac yn rhan o garfan, mae gan bawb eu rôl i chwarae ac mae pawb mor bwysig â phawb arall."
Alltudion Cymru
Mae pob un o ranbarthau Cymru, y Dreigiau, y Gleision, y Gweilch a'r Scarlets, wedi gweld rhai o'i sêr mwyaf yn gadael i chwarae yn Lloegr neu yn Ffrainc.
Leigh Halfpenny, Jonathan Davies a Richard Hibbard oedd tri o'r rheiny aeth allan o Gymru dros yr Haf.
Ar hyn o bryd, capten Cymru, Sam Warburton, yw'r unig un i arwyddo cytundeb canolog gyda'r Undeb. Ac mae Warburton wedi dweud y bydd cytundebau o'r fath yn atal gymaint o chwaraewyr Cymru .
Dywedodd Warburton bod y chwaraewyr gorau yn "edrych ar ôl eu bywoliaeth" drwy geisio cael y cytundebau gorau, ond ychwanegodd ei fod yn anodd i ranbarthau Cymru gynnig hynny. Ei obaith yw y bydd cytundebau canolog yn ateb i'r broblem.
Rhai chwaraewyr all gael cynnig cytundeb canolog gan Undeb Rygbi Cymru:
- Clo'r Gweilch, Alun Wyn Jones
- Wythwyr y Dreigiau, Taulupe Faletau
- Prop y Gleision, Gethin Jenkins
- Bachwr y Scarlets, Ken Owens
- Olwr y Gleision, Gareth Anscombe
- Asgellwr y Gleision, Alex Cuthbert
- Canolwr y Scarlets, Scott Williams
- Olwr y Scarlets, Liam Williams
- Maswr y Gweilch, Dan Biggar.