BBC Cymru Fyw

Lluniau: Uwchgynhadledd Nato yn dod i Gymru

Published
image captionRoedd yr haul yn tywynnu dros y Celtic Manor yn gynnar ar fore cyntaf y gynhadledd
image captionRoedd yr ymgyrch ddiogelwch yn amlwg iawn ymhell cyn i'r gynhadledd ddechrau, wrth i Gymru baratoi i groesawu rhai o wleidyddion mwyaf pwerus y byd
image captionDaeth sawl llong arfog i Fae Caerdydd ar gyfer yr uwchgynhadledd, gan gynnwys HMS Duncan, sy'n ffitio o drwch blewyn
image captionRoedd croeso cynnes i ymwelwyr arbennig iawn mewn un ysgol ffodus yng Nghasnewydd cyn i'r trafod ddechrau
image captionNid oedd pawb mor groesawgar, wrth i rai ddod i brotestio yng Nghaerdydd nos Iau
image captionRoedd rhai yn gorymdeithio yng Nghasnewydd hefyd, ond doedden nhw methu a phasio rhwystrau'r heddlu
image captionMae tua 9,000 o swyddogion yr heddlu wedi dod i dde Cymru ar gyfer y gynhadledd, yn gweithio o amgylch y cloc i gadw'r safleoedd yn ddiogel
image captionEr yr holl ddigwyddiadau o amgylch yr uwchgynhadledd, roedd amser i drafod rhai o faterion pwysicaf y byd hefyd
image captionMae 60 o arweinwyr gwledydd y byd a 4,000 o gynrychiolwyr wedi dod i dde Cymru ar gyfer y gynhadledd
image captionYr arlywydd cyntaf i ymweld a Chymru tra dal yn ei swydd - Barack Obama
image captionI ddechrau ail ddiwrnod y trafodaethau, roedd hediad arbennig gan awyrennau o wledydd Nato, gan gynnwys y Red Arrows
image captionAethon nhw dros Fae Caerdydd, lle daeth cannoedd i'w gweld, ac yna ymlaen i Gasnewydd
image captionOedd yr arddangosfa wedi plesio'r gwesteion tybed?
image captionMae 8 milltir o ffensys diogelwch wedi eu gosod o amgylch y Celtic Manor, ond llwyddodd un i'w pasio heb drafferth