Llys: Cam-drin awyrfilwr yn hiliol
- Cyhoeddwyd

Clywodd y llys bod Pte Aaron Numkoosing wedi cael sioc wrth glywed y sylwadau
Mae awyrfilwr Prydeinig gafodd ei gam-drin yn hiliol gan ffermwr mewn tafarn ym Mhowys wedi cael iawndal o £100.
Fe ddywedodd Osian Davies wrth Pte Aaron Numkoosing, 30, o Lundain, i fynd o'r ffordd, cyn i air hiliol gael ei ddefnyddio.
Yn ddiweddarach, dywedodd Davies, 22 oed o Libanus wrth swyddog diogelwch am y milwr, "ni ddylai fod yn fy ngwlad" cyn cael ei arestio.
Wrth ymddangos yn Llys Ynadon Aberhonddu, cyfaddefodd Davies aflonyddu hiliol.