Gorchymyn i fachgen am dân mewn ysgol gynradd ym Mangor
- Published
Mae bachgen 14 oed achosodd dros £100,000 o ddifrod i ysgol gynradd ym Mangor wedi cael gorchymyn cyfeirio 12 mis a bydd yn rhaid i'w deulu dalu costau o £80.
Roedd y bachgen wedi cyfaddef iddo gychwyn y tân yn Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor, ar 28 Chwefror.
Roedd o wedi bod yn "chwarae o gwmpas" gyda thaniwr sigaréts.
Fe ddechreuodd y tân mewn caban y tu ôl i ystafell ddosbarth, a chafodd yr ysgol ei chau am rai dyddiau yn dilyn y digwyddiad.
Flwyddyn yn ôl, fe dderbyniodd y bachgen rybudd gan yr heddlu am gynnau tân gwair.
Fe ddywedodd cadeirydd y llys, Malcolm Jones wrth y bachgen: "Rydych chi'n gwybod fod hon yn drosedd hynod ddifrifol.
"Petaech chi'n 16 oed neu hŷn, fe fyddech chi'n bendant wedi eich hanfon i'r carchar."