Uwchgynhadledd Nato yng Nghymru
- Published
Roedd uwchgynhadledd Nato yng Nghasnewydd yn gyfle i roi Casnewydd a Chymru gyfan ar y map, wrth i lygaid y byd wylio yr holl ddigwyddiadau yn ne ddwyrain Cymru ddydd Iau a dydd Gwener.
Roedd bron i 2,000 o newyddiadurwyr yn adrodd yr hanes o'r Celtic Manor, a llawer yn dilyn y gwithgareddau ar gwefannau cymdeithasol
Roedd yr uwchgynhadledd yn sicr wedi cadw defnyddwyr Twitter yn brysur.
Roedd golygfeydd o'r cerbydau arfog ar gwrs golff y Celtic Manor yn lluniau a poblogaidd ymysg defnyddwyr y gwefannau cymdeithasol. Meddyliwch be fyddai'r sgôr petai Ewrop yn defnyddio'r arfau hyn yn y Cwpan Ryder?
Roedd mesurau dioglewch llym a phresenoldeb 9,500 o swyddogion yr heddlu yn egluro pam fod strydoedd y brifddinas yn dawelach na'r arfer.
Daeth yr uwchgynhadledd â rhai golygfeydd anarferol i strydoedd ac awyrlun Caerdydd. Nid yw'r brifddinas erioed wedi gweld mesurau diogelwch o'r fath.
Roedd adegau arbennig a bythgofiadwy i rai, yn enwedig y disgyblion mewn un ysgol gynradd yng Nghasnewydd.