Carwyn Jones: Mwy o ddatganoli?

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones AM
Disgrifiad o’r llun,
Carwyn Jones: Am i Gymru gael cynnig tebyg

Dywed prif weinidog Cymru Carwyn Jones pe bai'r Alban yn cael rhagor o ddatganoli, yna dylai'r un cynnig gael ei wneud i Gymru.

Ond dywedodd Mr Jones nad oedd o blaid rhoi rheolaeth lawn i Lywodraeth Cymru benderfynu lefel y dreth incwm.

Mae'r pleidiau gwleidyddol sy'n ymgyrchu am bleidlais 'Na' yn refferendwm annibyniaeth yr Alban wedi dweud y byddant yn rhoi rhagor o bwerau i senedd yr Alban.

Daw sylwadau Mr Jones yn sgil un arolwg barn sy'n awgrymu fod yr ymgyrch 'Ia' ynyr Alban ar y blaen o drwch blewyn ar gyfer y refferendwm ar Fedi 18.

Mewn neges ar wefan Twitter ar ôl arolwg YouGov ar gyfer y Sunday Times, dywedodd Mr Jones: "Pe bai yna yn fwy o ddatganoli sy'n cael ei gynnig i'r Alban, fe ddylai hefyd gael ei gynnig i Gymru a Gogledd Iwerddon."

Ond ychwanegodd na fyddai rheolaeth dros y dreth incwm o fudd i Gymru.

Mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y byddant yn caniatáu hawliau treth incwm i'r Alban pe bai yna fwyafrif 'Na' yn y refferendwm.

Pwerau newydd

Dywedodd Mr Jones ei fod am i gonfensiwn cyfansoddiadol gael ei gynnal er mwyn trafod datganoli led led y DU.

"Mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus o dderbyn pwerau newydd pe bai yna gost sylweddol a hynny heb fod unrhyw adnoddau yn cael eu trosglwyddo.

"Mae'n rhaid i strwythur datganoli fod yr un peth led led y DU, hyd yn oed os yw pwerau datganoledig yn wahanol."

Eisoes mae rhai pwerau treth a benthyca yn cael eu datganoli i Fae Caerdydd. Mae'r rhain yn cynnwys rheolaeth rannol o'r dreth incwm, pe bai pleidlais mewn refferendwm yn cymeradwyo hynny.

Mae disgwyl i Mr Jones fyd i'r Alban yr wythnos hon i ymuno ag aelodau o'r Balid Llafur fel rhan o'r Ymgyrch 'Na'.

Yn y cyfamser mae disgwyl i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, i deithio i'r Alban i gefnogi'r ymgyrch 'Ie'.

Dywedodd: "Beth bynnag fydd canlyniad y refferendwm ar Fedi 18, fe fydd yna drafodaethau yn digwydd yn ystod y misoedd nesaf am ddyfodol cyfansoddiadol y DU."