Damwain farwol ar yr A466
- Cyhoeddwyd
Bu farw dynes oedrannus ac anafwyd pump o bobl ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A466 yn sir Fynwy.
Yn ôl yr heddlu, bu Ford Fiesta glas a Opel Manta llwyd mewn gwrthdrawiad yn ardal Tyndyrn ychydig cyn hanner dydd.
Roedd y ddynes a fu farw yn teithio yng nghefn y Fiesta.
Mae gyrrwr y Manta mewn cyflwr difrifol ac gan y pedwar eraill anafiadau i'r gwddf a choesau.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion.
Aed â'r rhai a anafwyd i Ysbyty Southmead ym Mryste.
Roedd y Fiesta yn teithio i'r de i gyfeiriad Cas-gwent tra bod yr Opel yn teithio i'r gogledd i gyfeiriad Trefynwy.
Mae'r A466 ar gau tra bod yr heddlu yn symud y ddau gar.
Gall tystion gysylltu â'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol