Tour of Britain yn cyrraedd Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae ras Tour of Britain yn dod i ogledd Cymru ddydd Llun, ar ail ddiwrnod un o rasys beiciau mwyaf y DU.
Mae disgwyl i filoedd o bobl wylio'r ras wrth iddi fynd drwy siroedd Wrecsam, Fflint a Dinbych cyn gorffen y dydd yn Llandudno, sir Conwy.
Fe ddechreuodd y ras yn Lerpwl ddydd Sul, a bydd yn gorffen yn Llundain ddydd Sul nesa.
Ymhlith y rhai sy'n cystadlu mae enillydd 2013 Sir Bradley Wiggins, a'r gwibiwr Mark Cavendish.
Dywedodd Wiggins: "Mae'n ras anodd, ond mae'r gefnogaeth rydym yn ei dderbyn yn anhygoel."
Dywedodd y cynghorydd Kevin Jones, aelod o gabinet Sir Y Fflint sydd â chyfrifoldeb am hamdden: "Mae hwn yn gyfle gwych i bobl leol weld y goreuon yn cystadlu, a dwi'n siŵr y bydd yna dorfeydd mawr yn dod i fwynhau."
Mae disgwyl i'r beicwyr gyrraedd Sir Fflint erbyn 12:30 ar gyfer y cymal 201 cilomedr. Mae'n bosib y bydd yna oedi o 20 munud ar y ffyrdd o ganlyniad i'r ras.
Fe fydd y beicwyr yn cyrraedd sir Ddinbych ychydig ar ôl 13:00 gan fynd drwy Drefnant a Llanelwy ac ymlaen i Landudno.
Ddydd Mawrth fe fydd y cystadleuwyr yn rasio drwy Bowys, o'r Drenewydd yn y gogledd ac ymlaen tuag at Sir Fynwy.