Terfel: Y Proms, Wagner a Man Utd!
- Published
Un o uchafbwyntiau Tymor Proms y BBC eleni ydi cyngerdd Proms in the Park ym Mharc Singleton, Abertawe ar Medi 13. Y prif atyniad eleni yw'r baswr-bariton byd enwog Bryn Terfel.
Cafodd BBC Cymru Fyw sgwrs efo'r Cawr o Bantglas am y Proms, ei heriau nesaf a'i frwydr i wella'i golff!:
Rwyt ti wedi perfformio yn gyson yn nhymor y Proms dros y blynyddoedd. Pa mor bwysig ydi'r tymor i hyrwyddo cerddoriaeth glasurol?
"Heb os nac onibai dyma'r wŷl glasurol bwysicaf yn y byd. Mae hi'n hollol unigryw gyda'r nosweithia' yn gwerthu allan a llond Neuadd Albert o ddilynwyr yn awchu am eu cerddoriaeth.
"Mae'r tymor yn hollbwysig mewn sawl ffordd. Yn ogystal â hybu perfformwyr ifanc y byd clasurol mae'n gyfle i gynulleidfaoedd weld artistiaid fyddai efallai ddim yn ymweld â Phrydain fel arall. Mae o hefyd yn lwyfan i weithfeydd enwoca'r byd clasurol dan arweiniad sawl cerddor arallfydol. Heb os nac onibai hon ydi'r ŵyl mae pawb a phopeth â diddordeb i fod yn rhan ohoni."
Beth yw dy atgofion gorau o ganu yn ystod Tymor y Proms?
"Un atgof anhygoel oedd perfformiad o Walküre gyda Thŷ Opera Covent Garden. Roedd sawl un o'r gynulleidfa yn sefyll am yn agos i 6 awr heb symud ac yn dilyn pob gair ar y llwyfan. A'r neuadd yn chwilboeth a phawb bron yn agos i lewygu.
"Allai hefyd byth anghofio y ddwy Noson Olaf y Proms dwi wedi bod yn ffodus iawn i fod yn rhan ohonyn nhw. Allai ddim disgwyl am y trydydd!"
Oes gen ti hoff ganeuon nad wyt ti byth yn blino ar eu canu?
"Oes. Pob un dwi wedi ddysgu ar gof a chadw. Anodd iawn fyddai dechra' dewis un uwch y llall."
Rwyt ti wedi chwarae rhai o gymeriadau amlycaf y theatr operatig dros y blynyddoedd. Pa un yw'r ffefryn? Pam?
"Mae gen i ddau ffefryn ar y foment. Falstaff, Verdi, sy'n gymeriad sy'n galluogi rhywun i wir fwynhau bod ar lwyfan yn ystyr perfformio, sef y canu a'r actio, o'r eiliad ma' rhywun yn y gadair golur i eiliadau olaf y fugue.
"A'r ail fyddai campwaith Wagner "Die Meistersinger". Gall neb ddisgrifio yn gyflawn, o safbwynt cantor, beth yn union yw'r teimlad o fod yn rhan o waith mor gyflawn, i'r côr, i'r gerddorfa, i'r cynhyrchydd. Gwaith sydd yn hawlio manylder a chywirdeb heb ei ail."
Fel un sy'n huawdl ddwyeithog rwyt ti'n aml yn gorfod canu mewn ieithoedd tramor. P'run yw'r anoddaf?
"Yr anoddaf... wel, ga'i ateb y cwestiwn yna ar ôl dysgu Boris Godunov yn Rwsieg?!"
Ti wedi canu deuawdau gyda rhai o oreuon y byd. Pwy fyddai dy bartner delfrydol?
"Cwestiwn amhosib i'w ateb. Os oes rhywun sy'n mwynhau canu fel fi ac yn rhan o unrhyw ddeuawd ar lwyfan mae'n rhaid i'r ddau ganolbwyntio. Un neu ddau o reolau - tonyddiaeth, manylder...
"Wedi mwynhau deuawdau gyda Kauffman, Calleja, Flemming, Evans, Bocelli, Thompson, Jones, Bassey........gobeithio felly daw na fwy...!!"
Rwyt ti'n gefnogwr pêl-droed brwd. Mae dy dîm, Manchester United wedi cael dechrau digon simsan i'r tymor. Ai Luis Van Gaal ydi'r dyn iawn i gymryd yr awennau?
"Dwi newydd ddarllen llyfr Syr Alex Ferguson sydd wedi agor y llifddorau i beth sy'n digwydd ar ôl cyfnod byr iawn Mr Moyes. Mr Gaal ydi'r cymeriad i fynd â'r tîm ymlaen nawr drwy amseroedd o newid a theimladau di-hyder. Ma'n rhaid fod gan y dyn gysylltiadau anhygoel yn y byd pêl-droed a fydd yn agor sawl drws i wella dyfodol y clwb. Dringo'r tabl yw'r nod efo'r chwaraewyr anhygoel sydd wedi ymuno â'r clwb. Yna, dyfal donc."
Pa heriau sydd yn dy wynebu dros y misoedd nesaf?
"Mi fyddai'n canu Wagner yn Vienna am y tro cyntaf.
"Dwi'n edrych 'mlaen yn eiddgar i agoriad swyddogol Neuadd Bryn Terfel ym Mangor. Mae'r ddinas wedi bod yn rhan o'm datblygiad cerddorol o'r cychwyn cyntaf - arholiadau piano, canu, clarinet, Eisteddfodau'r Urdd, Côr Gwynedd, cyngherddau yn y neuadda', capeli, y Gadeirlan, colegau, cyngerdd cyntaf fy Ymddiriedolaeth, cyngherddau yn yr hen Theatr Gwynedd ayyb. Rwan dwi'n cael yr anrhydedd anhygoel o gael y Theatr wedi ei henwi ar fy ôl i, anrhydedd dwi yn bersonol yn hynod falch o'i derbyn.
"Mi fyddai'n canu dwy opera newydd Elisir yn Llundain a "Fiddler on the Roof" gyda Grange Park Opera.
"Mae 'na ddigon i'w wneud. Ac ar ben hynny mi fyddai'n ceisio am y tro cyntaf i gael gwersi golff. Dwi angen dod â'r handicap ma' i lawr. Hen bryd!"