Plant maeth yn cael eu gwahanu

Plant Image copyright Thinkstock
Image caption Mae awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd cadw grwpiau mawr o frodyr a chwiorydd gyda'i gilydd

Mae dros 40% o blant sy'n cael eu gyrru i gartrefi maeth yng Nghymru'n cael eu gwahanu o'u brodyr a'u chwiorydd, yn ôl elusen.

Mae Gweithredu dros Blant, a gafodd y wybodaeth drwy gais rhyddid gwybodaeth, yn dweud bod y broses o wahanu yn gallu cael effaith andwyol ar blant gan achosi iddyn nhw fod yn drist ac yn flin.

Y broblem, yn ôl yr elusen, yw'r diffyg gofalwyr sy'n gallu edrych ar ôl grwpiau o frodyr a chwiorydd ac maen nhw'n credu bod angen cymryd camau i newid y sefyllfa.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr roedd y broblem waethaf, lle cafodd 54% o grwpiau o frodyr a chwiorydd eu gwahanu.

'Ergyd ddwbl'

Mae cyfarwyddwr gweithredol yr elusen, Stacey Burnett, yn dweud fod plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal yn wynebu amser anodd iawn.

"Rydych chi'n cael eich gwahanu o'ch teulu, eich ffrindiau, eich cymuned ac mae mynd drwy hynny heb eich brawd neu'ch chwaer yn gallu bod yn ergyd ddwbl, fel petai," meddai.

"Felly'n aml, mae plant gartref yn gofalu am ei gilydd.

"Nhw yw'r bobl maen nhw'n gallu dibynnu arnyn nhw am gefnogaeth o fewn amgylcheddau sy'n aml yn anhrefnus felly pan maen nhw'n colli hynny mae yna deimlad mawr i'r plant eu bod nhw'n cael eu gadael ar ôl."

Er mai'r prif reswm dros wahanu plant oedd nad oedd modd eu cadw â'i gilydd, roedd rhai achlysuron lle'r oedd angen eu gwahanu am resymau eraill, yn ôl Ms Burnett.

Mae Caroline March o Geredigion wedi bod yn maethu ers dros ddegawd ac yn yr holl amser yna dydi hi erioed wedi cael plentyn oedd heb gael ei wahanu o frodyr neu chwiorydd, ond dywedodd:

"Rwyf wedi bod ddigon lwcus i gael pobl ifanc yn byw â mi sy'n dod o deuluoedd mawr," meddai, "felly dydyn ni ddim yn son am gael eu gwahanu o un neu ddau o frodyr neu chwiorydd.

"Rydym ni'n son am deuluoedd o saith neu naw o blant sy'n canfod ei hunain yn cael eu gwahanu."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.