BBC Cymru Fyw

Damwain farwol yr A466: Enwi menyw

Published

Mae Heddlu Gwent wedi enwi menyw oedrannus fu farw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A466 yn sir Fynwy ddydd Sul.

Roedd Beryl Ellis yn 79 oed ac yn dod o Wyesham, Sir Fynwy.

Yn ôl yr heddlu, bu Ford Fiesta glas ac Opel Manta llwyd mewn gwrthdrawiad yn ardal Tyndyrn ychydig cyn hanner dydd.

Roedd Ms Ellis yn teithio yng nghefn y Fiesta.

Roedd y Fiesta yn teithio i'r de i gyfeiriad Cas-gwent tra bod yr Opel yn teithio i'r gogledd i gyfeiriad Trefynwy.

Anafwyd pump o bobl eraill yn y ddamwain, ac aed â nhw i Ysbyty Southmead ym Mryste.

Roedd gyrrwr y Manta mewn cyflwr difrifol ac roedd gan y pedwar eraill anafiadau i'r gwddf a choesau. Maen nhw i gyd mewn cyflwr sefydlog.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar dystion i'r digwyddiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.

Straeon perthnasol

  • Damwain farwol ar yr A466