Mjadzelics: Cyhoeddi dyddiad achos
- Published
Mae dyddiad achos llys Joanne Mjadzelics wedi ei bennu - mi fydd yn para pythefnos o Ionawr 5 ymlaen.
Mae hi'n wynebu chwe chyhuddiad o ddosbarthu a bod â delweddau anweddus o blant yn ei meddiant ac mae cyhuddiad ychwanegol ynghlwm wrth honiadau ei bod hi wedi gofyn i Ian Watkins anfon lluniau anweddus o blant ati.
Fe blediodd hi'n ddieuog ym mis Gorffennaf.
Fe gafodd Ms Mjadzelics ei harestio a'i chyhuddo ym mis Mawrth fel rhan o Ymgyrch Globe.
Mae'r ymgyrch yn ymchwiliad i weithredoedd Ian Watkins, y canwr roc o Bontypridd wnaeth bledio'n euog i gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Straeon perthnasol
- Published
- 21 Mawrth 2014