Jason Grovell yn pledio'n euog i ddynladdiad
- Published
image copyrightGoogle
Mae dyn 23 mlwydd oed wedi pledio'n euog i ddynladdiad yng Nghaerffili.
Fe wnaeth Jason Grovell o Gaerffili ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd drwy gyfrwng linc fideo o garchar y brifddinas.
Cafodd ei arestio yn dilyn marwolaeth Jake Mark Sweeney, 26, ar ôl ffrwgwd y tu allan i dafarn yr Irish Tymes ar Res yr Orsaf yn y dref ddydd Sul Awst 24.
Dywedodd y barnwr Eleri Rees fod Grovell yn wynebu "dedfryd sylweddol".
Yn dilyn marwolaeth Mr Sweeney, defnyddiodd ei dad, Mark, Facebook i roi teyrnged i'w fab.
Ysgrifennodd: "Mae'r boen yn annioddefol.
"Methu credu ei fod wedi mynd a byddaf byth yn ei weld eto".
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Medi 2014