BBC Cymru Fyw

Cwest: 'Wedi ei tharo yn ei hwyneb'

Published
image copyrightWales News Service
image captionBu farw Judith Garrett ar ôl cael anafiadau difrifol i'w phen

Mae cwest wedi clywed bod menyw gafodd ei tharo gan feic mynydd wrth wylio ras yn Llangollen wedi dioddef anafiadau difrifol i'w phen.

Cafodd Judith Garrett, 29 oed o Northumberland, ei chludo i Ysbyty Stoke ar ôl bod yn gwylio'r ras yn Nhŷ'n y Graig ger Llangollen ar 31 Awst, ond bu farw'n ddiweddarach.

Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun bod patholegydd wedi dweud iddi gael ei tharo yn ei hwyneb.

Cafodd y cwest ei ohirio tan fis Ionawr.