Streic: Llyfrgell Genedlaethol i gau
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dweud ei fod yn "siomedig" bod undebau'n bwriadu cynnal streic ddydd Mercher 10 Medi, er i'r llyfrgell gynnig "3% o ddyfarniad cyflog i'r holl staff".
Bydd y llyfrgell yn cau ddydd Mercher oherwydd y gweithredu.
Yn ôl yr undebau, Prospect Cymru ac Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS), nid yw rhai aelodau o staff y llyfrgell hyd yn oed yn derbyn cyflog byw.
Mae'r undebau wedi dweud eu bod yn anhapus gan nad yw 200 o'u haelodau wedi cael codiad cyflog ers 2008.
Ond dywedodd y Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Aled Gruffydd Jones, bod ymateb yr undebau wedi bod yn "gynamserol".
Meddai: "Mae'r Llyfrgell eisoes wedi cynnig 3% o ddyfarniad cyflog i'r holl staff, ynghyd â swm ariannol ychwanegol i weithwyr ar gyflogau isel, wedi'i ôl ddyddio i Ebrill 2013, a fyddai'n golygu y byddai'r Llyfrgell yn cyrraedd targed Cyflog Byw Llywodraeth Cymru erbyn Ebrill 2015, yn unol â disgwyliadau'r Llywodraeth.
"Felly, mater o siom yw bod yr Undebau wedi gwrthod y cynnig hwn.
"Serch hynny, bydd y Llyfrgell yn gweithredu ei bwriadau o ran Cyflog Byw erbyn Ebrill 2015."
Straeon perthnasol
- 20 Awst 2014